Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Mae’r pigiad atgyfnerthu’n bwysig – derbyniwch y cynnig os gewch chi un
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Wythnos Croeso i Dy Bleidlais 2026
Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Mae’r pigiad atgyfnerthu’n bwysig – derbyniwch y cynnig os gewch chi un
ArallPobl a lle

Mae’r pigiad atgyfnerthu’n bwysig – derbyniwch y cynnig os gewch chi un

Diweddarwyd diwethaf: 2021/11/11 at 4:55 PM
Rhannu
Darllen 3 funud
Booster
RHANNU

Mae pobl sy’n gymwys ledled gogledd Cymru’n cael llythyrau’n cynnig pigiad atgyfnerthu ac mae’n bwysig ichi beidio ag oedi cyn derbyn eich apwyntiad pan gewch chi un.

Cynnwys
Pam fod arnaf angen pigiad atgyfnerthu?Sut ydym yn gwybod ei fod yn gweithio?Oes modd imi gael y pigiad rhag y ffliw a’r pigiad atgyfnerthu ar yr un pryd?

Pam fod arnaf angen pigiad atgyfnerthu?

Fel sy’n digwydd gyda brechlynnau eraill, mae’r amddiffyniad a gewch chi gan y brechlyn rhag Covid-19 yn dechrau pylu dros amser. Drwy gael dos atgyfnerthu byddwch yn ymestyn yr amddiffyniad a gawsoch chi o’ch dau ddos cyntaf.

Ac yn bwysicaf oll mae’n helpu i leihau’r perygl y bydd angen ichi fynd i’r ysbyty gyda Covid-19 y gaeaf hwn.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Sut ydym yn gwybod ei fod yn gweithio?

Mae tystiolaeth o raglen yn Israel a ddechreuodd yn gynharach eleni’n awgrymu’n gryf bod yno gyfraddau is o salwch difrifol ymysg y rhai hynny sy’n cael pigiad atgyfnerthu o gymharu â’r rhai hynny nad ydynt yn ei gael.

Roedd llai o heintiau wedi’u cadarnhau ymysg y grŵp a gafodd bigiadau atgyfnerthu na’r rhai na’u cafodd.

Yr hyn y dylem oll ei gadw mewn cof yw bod y pandemig yn dal yma, er bod bywyd wedi mynd yn ôl i’r arfer i raddau helaeth; mae pobl yn dal i gael profion positif ac yn anffodus, mae pobl yn dal i farw ar ôl cael Covid-19.

Meddai Gill Harris, Cyfarwyddwr Gweithredol Nyrsio a Bydwreigiaeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: “Mae’n destun pryder bod cyfraddau COVID-19 yn dal mor uchel, ac mae’r GIG yng Nghymru ar fin wynebu cyfnod mwyaf heriol y pandemig

“Mae’n bwysig iawn cael y pigiad atgyfnerthu wrth inni geisio sicrhau ein bod yn gwarchod cymaint o bobl â phosib yn ein cymunedau dros y gaeaf, a helpu gwasanaethau hanfodol ein GIG yn eu tro.”

Helpwch i gadw gogledd Cymru’n ddiogel a gwarchod y GIG dros y gaeaf drwy:

  • Dderbyn y cynnig o bigiad rhag y ffliw a’r pigiad atgyfnerthu cyn gynted ag y cewch chi un.
  • Dal i ddilyn y canllawiau coronafeirws
  • Os oes arnoch angen gofal gan y GIG, dewiswch y gwasanaeth mwyaf perthnasol i’ch anghenion drwy fynd i wefan GIG 111 Cymru neu’r Bwrdd Iechyd.

Oes modd imi gael y pigiad rhag y ffliw a’r pigiad atgyfnerthu ar yr un pryd?

Oes, mae’n ddiogel ichi gael y ddau ar yr un pryd neu’n agos at ei gilydd. Peidiwch ag oedi cyn derbyn os cewch chi gynnig y naill bigiad neu’r llall.

Mae'r amddiffyniad gan frechlynnau COVID-19 yn lleihau dros amser. Dyna pam rydym yn gwahodd pobl i gael pigiad atgyfnerthu, o 6 mis ar ôl eu hail ddos.

Bydd eich bwrdd iechyd yn cysylltu â chi pan ddaw eich tro. Daliwch i amddiffyn eich hun y gaeaf hwn.https://t.co/XF1L7g4RFQ pic.twitter.com/Xp5jFrdFzv

— Llywodraeth Cymru Iechyd a Gofal (@LlCIechydaGofal) November 10, 2021

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Avian Flu Ffliw Adar yn ardal Y Waun – beth ddylwn i ei wneud i amddiffyn fy adar?
Erthygl nesaf Victorian Ffair Nadolig Fictoraidd yn dychwelyd ar gyfer 2021

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol
Pobl a lle Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo
Arall Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!
Arall Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?
Digwyddiadau Pobl a lle Mawrth 11, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Image: Residents and staff at Penygelli care home in Wrexham.
Pobl a lle

Preswylwyr cartrefi gofal yn dod at ei gilydd i greu llyfr ryseitiau calonogol

Mawrth 13, 2026
Llay coal tip in Wrexham
Arall

Dyfarnwyd dros £1.3 miliwn i Gyngor Wrecsam o gynllun Grant Diogelwch Tomenni Glo

Mawrth 12, 2026
The renal team at the Maelor Hospital in Wrexham
Arall

12 Mawrth yw Diwrnod Arennau’r Byd!

Mawrth 12, 2026
Wrexham v Swansea
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Abertawe – beth am barcio a theithio?

Mawrth 11, 2026
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English