Mae’r tenantiaid yn gofrestru am eiddo newydd Cyngor Wrecsam
Tristan a Rebekah, a Sarah a Jake yw’r denantiaid cyntaf i symyd i un o’n tai newydd yng Ngwersyllt. Mae hwn yn gyntaf i Gyngor Wrecsam, felly roeddem eisiau ddarganfod mwy gan ein tenantiaid i weld beth oedd eu barn am eu gartrefi newydd…
Roedd Sarah a Jake yn byw ar wahân gyda’u rhieni o’r blaen, a dyma fydd eu cartref teuluol cyntaf gyda’i gilydd. Dywedodd Sarah “Mae’n hollol hyfryd, mae mor eang. Byddem wedi bod yn hapus gydag unrhyw le ond mae hyn yn anhygoel! ”Roedd Ella, ferch Sarah a Jake yn gyffrous hefyd, pan gafodd wybod y byddai’n cael hystafell wely ei hun.
Roedd Tristan a Rebekah yn byw mewn fflat efo 1 ystafell wely uwchben siop yn Bradley cyn cael cynnig un o’r adeiladau newydd. Dywedodd Rebekah “Roedd yn anodd symud, ond yn sicr roedd yn werth chweil. Mae’n hyfryd ac rydym yn ymgartrefu’n braf, hyd yn oed ar ôl ychydig ddyddiau yn unig.”
Mae llawer o waith caled gan dimau o fewn ein adran Tai a Economi wedi mynd i sicrhau yr adeiladau newydd, gyda chefnogaeth fawr gan Aelod Arweiniol, Cynghorydd David Griffiths.
Ymunodd y Cynghorydd David Griffiths â ni ar y diwrnod i groesawu i’w gartref newydd a ddywedodd ‘Rydym yn gobeithio datblygu llawer mwy o dai newydd yn y ddyfodol i’n denantiaid Cyngor Wrecsam, ac mae mor werthfawr gweld pa mor hapus mae’r tenantiaid newydd gyda’u gartrefi newydd, hardd. ‘
I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad, cliciwch yma
DWI ISIO MYNEGI FY MARN!
DOES DIM OTS GEN