Mae nifer o resymau gwych am fanteisio ar brentisiaeth grefft gyda ni … cewch ddysgu a pherffeithio eich crefft, cewch brofiad gwerthfawr drwy faeddu eich dwylo, a pheidiwch ag anghofio y byddwch yn cael cyflog am wneud hynny.
A dim ond y dechrau yw hynny! Mae swyddi go iawn sy’n eich caniatáu i weithio mewn adran flaengar sydd bob amser yn ceisio rhoi’n cwsmeriaid yn gyntaf … ein hagwedd wrth i ni gwblhau tasgau yw ‘Gwnewch y Dasg Unwaith a Gwnewch y Dasg yn Iawn’ 🙂
Eisiau ymuno â ni? Dyma beth rydym yn chwilio amdano…
3 Plymwr dan Brentisiaeth:
Mae gennym dri o brentisiaethau i blymwyr gyda chyflog isafswm dechreuol o £9,410 ond gallai godi, yn dibynnu ar oedran a’ch blwyddyn gyfredol o hyfforddiant.
Saer dan Hyfforddiant:
Rydym hefyd yn chwilio am saer dan brentisiaeth a bydd yn cynnwys cyflog isafswm cychwynnol o £9,020, ond gallai hyn godi, yn dibynnu ar eich oed a’ch blwyddyn gyfredol o hyfforddiant.
Felly, os oes gennych agwedd bositif, yn awchu am her a’ch bod yn dymuno gwneud gwaith o safon, byddem wrth ein boddau i glywed gennych chi.
Mae ein prentisiaid yn cael eu trin fel ein gweithwyr eraill, gyda chontract cyflogaeth a gwyliau 🙂
Hefyd, mae ein Hadran Dai a’r Economi yn gyfrifol am gynnal 11,200 o dai’r cyngor, felly bydd digon o ddwylo ar waith, hefyd byddwch yn treulio tua 20 y cant o’ch amser yn y coleg.
“Mae diddordeb gen i, beth ddylwn i wneud nesaf?”
I gael sgwrs anffurfiol gallwch ffonio 01978 315371, neu i weld y swydd-ddisgrifiad yn llawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod.
Y dyddiad cau ar gyfer y ddwy swydd yw dydd Gwener, 19 Gorffennaf.
3 Plymwr dan Brentisiaeth
Saer dan Hyfforddiant