Mae ein marchnadoedd yn rhan enfawr o’n hanes.
Maent yn rhan enfawr o fywyd dyddiol yn Wrecsam, ac maent yr un mor bwysig fel mannau i bobl gwrdd a chymdeithasu ag y maent fel mannau i brynu a gwerthu.
Yr wythnos ddiwethaf, roedd un o’n masnachwyr yn creu hanes, drwy ddathlu 50 mlynedd o fasnachu parhaus o dan un to.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Roedd Mohammed Anwar, perchennog Anwar Fashionwear, siop gwisg ffansi, ategolion a dillad yn ymwneud â Chymru yn y Farchnad Gyffredinol ar Stryt Henblas, yn dathlu 50 mlynedd o fasnachu a’i ben-blwydd yn 80 ddydd Mercher, 25 Gorffennaf.
Sefydlodd Mr Anwar y busnes yn y Farchnad Gyffredinol ym 1969 ac mae wedi parhau i fasnachu yno ers hynny.
Nid yw’r busnes wedi symud o’i leoliad yn y farchnad – dros dro hyd yn oed- yn y 50 mlynedd diwethaf.
Yn ystod y blynyddoedd hynny, mae Anwar wedi ehangu gan gymryd mwy a mwy o’r Farchnad Gyffredinol – sy’n cael ei hadnabod yn anffurfiol fel ‘Marchnad Anwar’ gan nifer o breswylwyr Wrecsam.
Dywedodd Mr Anwar: “Ar ôl masnachu yn Wrecsam yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, rwyf wedi gweld llawer o newidiadau yn y dref.
“Ynghyd â gweld masnachwyr eraill y farchnad yn newid, rwyf wedi gweld nifer o enwau mawr y brif stryd yn mynd a dod.
“Mae wedi bod yn 50 mlynedd ddiddorol iawn – ac nid wyf yn bwriadu ymddeol yn fuan o gwbl!”
Mae Mr Anwar yn rhedeg y siop gyda’i fab Shabab Anwar.
Dywedodd Shabab: “Rydym yn ddiolchgar iawn i’r holl gwsmeriaid dros y blynyddoedd, a rydym eisiau cymryd y cyfle i ddiolch i holl bobl Wrecsam sydd wedi cadw’r busnes ar ei draed.
“Mae nifer o bobl Wrecsam yn adnabod y Farchnad Gyffredinol fel ‘Marchnad Anwar’, felly mae’n dangos fod gennym gadarnle yng nghalonnau pobl Wrecsam, ac rydym yn ddiolchgar iawn”.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd ac Adfywio: “Hoffwn longyfarch Mr Anwar am ei 50 mlynedd o fasnachu yn y Farchnad Gyffredinol.
“Dymunaf y gorau iddynt i barhau i fasnachu yn y dyfodol -ac rwy’n siŵr bydd y busnes yn parhau ymhen 50 mlynedd arall”.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION