Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Miliynau o gynnyrch tybaco anghyfreithlon yn cael eu hatafaelu fel rhan o’r gwaith i fynd i’r afael â masnachu tybaco anghyfreithlon
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Miliynau o gynnyrch tybaco anghyfreithlon yn cael eu hatafaelu fel rhan o’r gwaith i fynd i’r afael â masnachu tybaco anghyfreithlon
Y cyngor

Miliynau o gynnyrch tybaco anghyfreithlon yn cael eu hatafaelu fel rhan o’r gwaith i fynd i’r afael â masnachu tybaco anghyfreithlon

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 18, 2021 2:50 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Illegal Tobacco
RHANNU

Mae dros bum miliwn o sigaréts anghyfreithlon wedi’u hatafaelu o leoliadau manwerthu lleol yn y chwe mis cyntaf o’r flwyddyn fel rhan o Ymgyrch CeCe, ymgyrch ar y cyd rhwng Safonau Masnach Cenedlaethol a Chyllid a Thollau Ei Mawrhydi (HMRC) i fynd i’r afael â gwerthu tybaco anghyfreithlon.

Mae’r cynnyrch anghyfreithlon hefyd yn cynnwys dros 1,700kg o dybaco rowlio a 66kg o shisha. I gyd, mae dros £2.7miliwn o bunnoedd o gynnyrch tybaco anghyfreithlon wedi’i waredu o’r strydoedd ledled Cymru a Lloegr ers lansio’r ymgyrch ym mis Ionawr 2021.

Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.

Mae Ymgyrch CeCe yn rhan o strategaeth ehangach y llywodraeth i atal pob agwedd o’r farchnad tybaco anghyfreithlon, o fan-werthwyr rheng flaen i Grwpiau Troseddol byd-eang sy’n cymell masnachu anghyfreithlon, gan smyglo tybaco’n rhyngwladol ar raddfa fawr. Mae’r strategaeth yn cynnwys mynd i’r afael â’r ffrydiau cyflenwi drwy gau ffatrïoedd anghyfreithlon, atal cynnyrch ac arian parod sy’n cael ei smyglo ar y ffin ac atal yr unigolion sy’n gwerthu cynnyrch mewn siopau a marchnadoedd. Cyflawnir y cyfan drwy weithio’n agos gyda’r rhai sy’n gorfodi’r gyfraith a phartneriaid eraill.

Ar lefel leol mae NTS yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol i gynorthwyo i ganfod tybaco anghyfreithlon, safonau masnach yn atafaelu cynnyrch tybaco anghyfreithlon a phrofi gweithgarwch prynu i dargedu’r rhai sy’n cyflenwi’r cynnyrch.

Dywedodd Wendy Martin, Cyfarwyddwr, Safonau Masnach Cenedlaethol: “Mae Ymgyrch CeCe yn ceisio diogelu cymunedau lleol rhag niwed o ganlyniad i fasnachu tybaco anghyfreithlon. Y tu hwnt i effaith sylweddol tybaco ar iechyd pobl, mae masnachu tybaco anghyfreithlon yn aml yn rhan o weithgarwch troseddol gan gynnwys smyglo cyffuriau, masnachu mewn pobl a chynhyrchu alcohol a DVD anghyfreithlon. Mae pris gwerthu bwriedig sigaréts sy’n cael eu hatafaelu yn aml yn hanner cost y tybaco cyfreithlon. Mae hyn nid yn unig yn tanseilio’r gwaith i leihau nifer yr unigolion sy’n ysmygu ond mae hefyd yn effeithio ar fusnesau cyfreithlon.

“Mae’r ymgyrch yn nodi’r cydweithrediad cyntaf rhwng Safonau Masnach Cenedlaethol a HMRC, ac rwy’n falch bod y chwe mis cyntaf wedi bod yn hynod lwyddiannus er mwyn gwaredu cyfran sylweddol o gynnyrch tybaco anghyfreithlon oddi ar ein strydoedd ac atal y rhai sy’n masnachu’n anghyfreithlon.”

Dywedodd Simon York, Cyfarwyddwr Gwasanaeth Ymchwilio Twyll, HMRC: “Mae Ymgyrch CeCe yn dangos ein hymrwymiad i fynd i’r afael â bygythiad tybaco anghyfreithlon. Mae’n fasnach sy’n costio oddeutu £2.3 biliwn y flwyddyn i drethdalwyr y DU, gan danseilio ein gwasanaethau cyhoeddus allweddol a thalu am nifer o droseddau eraill sy’n niweidio cymunedau, gan gynnwys gynnau, cyffuriau a masnachu mewn pobl.

“Mae’r rhai sy’n masnachu yn tanseilio busnesau cyfreithlon ac nid ydynt yn poeni pwy yw eu cwsmeriaid, gan gynnwys plant. Mae HMRC a Safonau Masnach yn benderfynol o atal masnachu tybaco anghyfreithlon, fel y dengys y canlyniadau hyn”.

Mae HMRC yn annog unrhyw un sydd â gwybodaeth am werthu tybaco’n anghyfreithlon i roi gwybod amdano ar-lein neu drwy ffonio’r Llinell Dwyll ar 0800 788 887.

Os ydych chi’n chwilio am yrfa newydd ac os hoffech chi helpu pobl yn eich cymuned, ystyriwch swydd gofal cymdeithasol.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://fynghyfrif.wrecsam.gov.uk/cy/service/care_jobs_in_wrexham”]DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol feed birds Pam na ddylen ni fwydo bara i adar yn y parc?
Erthygl nesaf Half Term Digon i gadw plant 16 ac iau yn ffit ac iach dros yr hanner tymor hwn

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Wrecsam yn dathlu llwyddiant Aur yng ngwobrau Cymru yn ei Blodau 2026
Y cyngor Digwyddiadau Pobl a lle
Hydref 26, 2026
All Saints School fundraising activities
Disgyblion Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn rhedeg, yn pobi ac yn gwneud gwahaniaeth at achos da
Pobl a lle Busnes ac addysg
Hydref 26, 2026
Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

National Adoption Week 2026
Y cyngorPobl a lle

Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru

Hydref 23, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English