Ar 7 Chwefror, roedd myfyrwraig o Ysgol Uwchradd Darland yn Wrecsam yn gapten ar dîm sglefrio iâ ym mhencampwriaethau sglefrio iâ Trophy d’Ecosse 2020 yn Dumfries, Yr Alban, ac enillodd y tîm fedal.
Milly Clarke yw capten The Deeside Cherubs ac fe arweiniodd ei thîm i ennill y fedal efydd yn eu categori. Mae pawb nôl yn Ysgol Darland yn falch iawn o gyflawniad Milly, sydd yn wobr haeddiannol am ei holl waith caled.
“Ffactor mawr ar iechyd plant yn eu harddegau”
Mae staff yn Ysgol Uwchradd Darland yn cydnabod y pwysigrwydd mawr y gall chwaraeon ei gael ar ddatblygiad corfforol myfyrwyr, yn ogystal ag ar eu lles yn gyffredinol.
Dywedodd Miss Gardner, Pennaeth Addysg Gorfforol yn Ysgol Darland: “Mae chwaraeon yn ffactor mawr ar iechyd plant yn eu arddegau” Mae gennym nifer o dimau chwaraeon llwyddiannus yn Ysgol Uwchradd Darland ac mae’r adran yn perfformio’n dda iawn mewn arholiadau TGAU bob blwyddyn. Serch hynny, rydym ni hefyd yn annog gymaint o’n myfyrwyr â phosibl i gymryd rhan mewn chwaraeon y tu allan i’r ysgol.
“Mae cystadlu mewn chwaraeon yn datblygu nifer o sgiliau ac mae’n datblygu lles corfforol a meddyliol. Rydym wrth ein boddau dros Milly ac rydym ni’n dymuno’r gorau iddi wrth iddi ddilyn ei breuddwyd tuag at lwyddiant yn sglefrio”.
“Bod yn well na’r diwrnod cynt”
Mae Milly, sydd wedi bod yn sglefrio ers drwy flynedd, yn egluro pam ei bod hi wedi bod yn angerddol am y gamp, am ei fod “yn fy herio i fod yn well na’r diwrnod cynt.” Mae hi’n llawn bwrlwm a chyffro wrth iddi siarad am sglefrio.
Meddai Milly: “Dwi’n gweithio ar fy sgiliau fy hun megis datblygu fy nghydbwysedd, hyblygrwydd a chydsymudiad, ond mae sglefrio gyda’r Cherubs yn golygu bod yn rhan o dîm a sicrhau fod cydamseredd yn cyrraedd y safon.
Pan ofynnwyd iddi am ei chynlluniau i sglefrio yn y dyfodol, dywedodd Milly: “Dwi’n edrych ymlaen at sglefrio ar fy mhen fy hun yn y dyfodol, a’r nod yn y pendraw yw hyfforddi i fod yn Hyfforddwr Sglefrio Iâ rhyw ddiwrnod”.
Y cyfan sydd gennym ni i’w ddweud yw ‘pob lwc Milly’… fe gadwn ni lygad allan amdanat ti 🙂
Cofrestrwch i dalu i’ch bin gwyrdd gael ei wagio.
RYDW I EISIAU TALU RŴAN