Gall paratoi ar gyfer babi neu ofalu am fabi newydd fod yn gyffrous iawn ond gall hefyd fod yn ofnus gan beri i rai rhieni ystyried sut maent am ymdopi.
Ydi hyn yn swnio’n gyfarwydd? Ydych chi’n teimlo fel eich bod angen cefnogaeth neu gymorth neu gyngor ar agweddau o rianta?
Peidiwch â phoeni – mae help wrth law gyda Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam sydd â phrofiad o ddarparu’r gefnogaeth, y cyngor neu’r cymorth yr ydych yn chwilio amdano.
Gall y staff cyfeillgar eich helpu i gael mynediad at y gwasanaethau cymorth yr ydych eu hangen – boed y gwasanaethau hynny’n ymwneud â gofal plant, iechyd a lles, datblygiad ac ymddygiad plentyn, sgiliau rhianta neu gyngor ar fudd-daliadau.
Mae miloedd o bethau i’w hystyried pan rydych yn disgwyl babi neu os oes gennych blentyn ifanc, beth am ffonio neu alw heibio i’w holi am unrhyw beth yr ydych yn ansicr ohono.
“Yma i helpu rhieni”
Meddai’r Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam lawer iawn i’w gynnig i rieni sydd yn gwerthfawrogi’r cymorth a’r cyngor sydd ar gael. Mae’r Gwasanaeth yno i helpu ac mae’r staff yn mwynhau cwrdd â darpar rieni a rhieni newydd. Gall y gwasanaeth gynorthwyo â phob agwedd ar rianta hyd at 19 mlwydd oed, felly os ydych eisiau cysylltu â’r gwasanaeth am unrhyw reswm, galwch heibio neu ffoniwch.”
“Lle mae’r gwasanaeth?”
Mae gan y Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam gyfleuster Galw Heibio yn swyddfa Galw Wrecsam ar Stryt yr Arglwydd. Mae ar agor ddydd Llun, dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Gwener rhwng 9:30 a 12:30 ac ar ddydd Iau rhwng 10:30 a 12:30. Gallwch hefyd gysylltu â nhw’n uniongyrchol drwy ffonio 01978 292094 neu anfon e-bost at fis@wrexham.gov.uk.
Gallwch gael golwg ar eu gwefan yma
Derbyniwch y wybodaeth ddiweddaraf o ran graeanu yn syth i’ch mewnflwch
COFRESTRWCH FI RŴAN