Mae’r argyfwng hinsawdd yn bwnc llosg ac yn un y mae’n rhaid i ni fynd i’r afael ag o’n gyflym.
Ym mis Medi 2019 datganodd y Cyngor argyfwng hinsawdd yn Wrecsam i geisio datgarboneiddio gweithgareddau’r Cyngor a hyrwyddo gwaith i amddiffyn a gwella ein hamgylchedd naturiol.
I gefnogi’r gwaith yma rydym ni wrthi’n llunio Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio a fydd yn nodi rhaglen waith glir i’n gwneud ni’n sefydliad “carbon positif” (a byddwn yn gofyn am eich barn chi am hwn yn fuan iawn).
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Mae pandemig Covid-19 wedi amlygu pwysigrwydd ein hamgylchedd naturiol a bod gweithio’n galed i ddiogelu ein tirlun, ecoleg a’n bioamrywiaeth o’r pwys mwyaf.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er ein bod ni eisoes wedi gwneud llawer o waith yn ystod y ddegawd ddiwethaf i leihau ein hallyriadau carbon, mae’n amlwg fod arnom ni angen gwneud mwy i helpu i leihau effaith newid yn yr hinsawdd.
“Mae arnom ni angen canolbwyntio ar feysydd allweddol lle’r ydym ni’n gallu gwneud gwahaniaeth cadarnhaol a chynaliadwy a fydd yn lleihau ein hallyriadau carbon. Mae’n rhaid i hyn fod wrth wraidd pob datblygiad newydd ac unrhyw fuddsoddiad mewn cerbydau, nwyddau a gwasanaethau a wnawn yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd nesaf.
“Mae gennym ni lawer o gynlluniau a syniadau ac rydym ni’n edrych ymlaen at weld y rhain yn dwyn ffrwyth ac yn datblygu’n brosiectau, yn adeiladau ac yn gerbydau a fydd yn gwneud gwahaniaeth yn y dyfodol ac yn helpu i leihau effaith newid yn yr hinsawdd.”
Bydd y Cynllun Gweithredu yn nodi pedwar maes clir i ni ganolbwyntio arnyn nhw:
Adeiladau
Rydym ni eisoes wedi gwneud llawer o waith yn y maes hwn, fel gosod paneli solar (PV) ar doeau ysgolion, amnewid bylbiau gyda goleuadau LED, rhoi mesurau rheoli gwres ar waith a monitro ein defnydd o ynni yn ein hadeiladau.
Rydym ni rŵan yn bwriadu parhau i osod goleuadau LED, defnyddio technoleg pwmp gwres ar gyfer ein hadeiladau mwyaf, gosod mwy o baneli PV ac ailwampio ein swyddfeydd a’n hysgolion yn defnyddio dulliau a thechnolegau cynaliadwy, arloesol a charbon isel.
Cludiant a Symudedd
Mae ein fflyd fawr o gerbydau yn ffynhonnell enfawr o allyriadau carbon a does dim llawer wedi newid yn ystod y ddegawd ddiwethaf. Serch hynny, yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf rydym ni wedi bod yn defnyddio mwy o gerbydau ac wedi dechrau buddsoddi mewn mannau gwefru cerbydau trydan. Rydym ni hefyd wedi gosod mannau gwefru ar gyfer y cyhoedd yn ein meysydd parcio a’n canolfannau adnoddau.
Serch hynny, mae arnom ni angen edrych ar ostyngiadau pellach drwy barhau i osod mannau gwefru ar draws y fwrdeistref sirol. Hefyd, rydym ni’n bwriadu cynyddu ein fflyd o gerbydau trydan gan edrych yn benodol ar ein cerbydau mawr fel lorïau sbwriel a’r posibilrwydd o ddefnyddio cerbydau trydan neu hydrogen.
Defnydd Tir
Rydym ni eisoes wedi datblygu fferm solar ac wedi gosod paneli PV ar doeau ein hadeiladau, ond mae angen gwneud mwy.
Rydym ni rŵan yn edrych ar osod mwy o baneli PV a’r posibilrwydd o greu mwy o ffermydd solar. Fe allwn ni hefyd edrych ar wneud iawn am ein hallyriadau carbon drwy blannu mwy o goed.
Comisiynu, Caffael a Rheoli Contractau
Mae’r ffordd rydym ni’n caffael nwyddau a gwasanaethau yn gallu chwarae rhan fawr wrth leihau ein hallyriadau. Mae arnom ni angen sicrhau bod amodau contractau yn ystyried hyn ac yn rhoi prosesau ar waith sy’n cynnwys elfennau amgylcheddol a fydd yn cael eu hystyried wrth ddyfarnu contractau. Bydd ar y rhain angen rheolaeth dryloyw a chref i wneud yn siŵr bod yr holl fuddion amgylcheddol yn cael eu gwireddu.
Ychwanegodd y Cyng. Bithell: “Ddiwedd yr wythnos hon byddwn yn lansio ymgynghoriad ynghylch y Cynllun Gweithredu ac mae arnom ni eisiau clywed eich barn chi. Mae’r hyn a wnawn ni nesaf yn hanfodol i leihau ein hallyriadau, ond mae’n rhaid i’n gwaith fod yn ddichonadwy ac yn gynaliadwy. Rydym ni wedi nodi ein syniadau a’n bwriadau yn yr ymgynghoriad, a byddwn yn rhoi digon o amser i chi edrych arnyn nhw ac ymateb iddyn nhw.”
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG