Cyn y Nadolig, fe ofynnon ni am eich barn ar ein cynlluniau i fod yn sefydliad carbon niwtral erbyn 2030, ac roedd yn galonogol bod dros 500 ohonoch wedi treulio amser yn rhoi gwybod i ni beth rydych yn ei feddwl.
Rydym wedi cael cyfle i edrych yn fanylach ar yr ymatebion ac rydym wrthi’n cwblhau ein cynllun i leihau’r carbon rydym yn ei greu ymhellach, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r terfyn amser pwysig o 2030. Bydd hyn yn arwain at ein Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio a bydd yn gosod y llwyfan ar gyfer pedair blaenoriaeth y Cynllun.
Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru
I sicrhau ein bod yn cael pethau’n iawn, estynnir gwahoddiad i chi gymryd rhan mewn gweithdy ar-lein ar 22 Chwefror, rhwng 6pm a 7.30pm, pan fydd cyfle am sesiwn holi ac ateb hefyd.
Bydd sesiynau unigol ar ein 4 blaenoriaeth allweddol: Gallwch ddarllen rhagor am y blaenoriaethau hyn yma: Newid Hinsawdd 2020 – Lansiad Ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio – newyddion.wrecsam.gov.uk
Bydd sesiynau unigol ar ein 4 blaenoriaeth allweddol:
Gallwch ddarllen rhagor am y blaenoriaethau hyn yma: Newid Hinsawdd 2020 – Lansiad Ymgynghoriad Cynllun Gweithredu Datgarboneiddio – newyddion.wrecsam.gov.uk
“Lleihau effeithiau newid yn yr hinsawdd”
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae angen i ni sicrhau ein bod yn gwarchod ein amgylchedd, ac yn ei gynnal nawr, ac yn y dyfodol. Mae ein Cynllun Datgarboneiddio yn adnodd pwysig, y byddwn yn ei ddefnyddio i sicrhau y gallwn leihau effaith Newid Hinsawdd, a byddwn yn annog gymaint o bobl â phosib i gymryd rhan.
I gofrestru i gymryd rhan yn y gweithdy ar-lein, dilynwch y ddolen hon:
http://www.yourvoicewrexham.net/arolwg/1211
Bydd angen i chi adael i ni wybod os ydych chi angen y cyfleuster cyfieithu yn y digwyddiad, ac os oes gennych unrhyw gwestiynau cyn y digwyddiad byddai’n ddefnyddiol eu cael ymlaen llaw.
CANFOD Y FFEITHIAU