(Sgroliwch i lawr os oes gennych chi blentyn mewn ysgol gynradd.)
Os yw eich plentyn mewn ysgol uwchradd (ac eithrio Ysgol Maelor, Llannerch Banna*), byddwch yn ymwybodol y bydd cost pryd ysgol yn cynyddu o £2.45 i £2.65. Bydd pris eitemau eraill ar y fwydlen yn destun cynnydd cyfatebol.
Dywedodd y Cyng. Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Mae prisiau prydau ysgol Uwchradd wedi aros yn ddigyfnewid ers Medi 2019 pan gynyddodd y pris o £2.40 i £2.45. Mewn cyferbyniad i hynny mae prisiau bwyd yn y DU wedi cynyddu 26% o’i gymharu â’u lefelau cyn Covid, tra bod prisiau eitemau bob dydd fel tatws, wyau, llaeth, bara a chaws wedi cynyddu hyd at 39% yn y 12 mis diwethaf.
“Yn anffodus ni allwn fforddio amsugno’r cynnydd enfawr hwn mewn cost yn llawn. Drwy gadw’r cynnydd hwn mewn pris yn is na chwyddiant rydym wedi ceisio diogelu disgyblion a rhieni yn erbyn effaith llawn costau cynyddol bwyd. Mae’r opsiwn “pryd y dydd” yn parhau i gynnig gwerth da am arian a hyd yn oed ar ôl y cynnydd hwn mae pris pryd ysgol uwchradd yn Wrecsam yn parhau yn unol â rhai awdurdodau lleol eraill yng Ngogledd Cymru. Fodd bynnag, os ydych chi’n cael trafferth talu costau eich cartref, ewch i dudalennau ‘cymorth gyda chostau byw’ Cyngor Wrecsam am gyngor ar unrhyw gymorth arall a allai fod ar gael i chi.”
*Mae Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn rheoli eu gwasanaeth arlwyo yn fewnol. Os yw’ch plentyn yn mynd i’r ysgol hon, cysylltwch â’r ysgol yn uniongyrchol i gael mwy o wybodaeth am brisiau eu prydau ysgol.
Newidiadau i’r tâl am sesiwn chwarae boreol mewn ysgolion cynradd
Mae nifer o ysgolion cynradd yn Wrecsam yn cynnig brecwast am ddim mewn sesiwn yn y 30 munud cyn dechrau’r ysgol. Gallwn eich sicrhau na chodir unrhyw dâl o hyd am y pryd hwn.
Fodd bynnag, yn ychwanegol at y sesiwn brecwast am ddim, mae nifer o ysgolion yn cynnig sesiwn chwarae 30 munud ychwanegol ac yn codi £1 y plentyn ar rieni (am ddim i blant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim).
Tra bod y gyfradd hon wedi aros yn ddigyfnewid ers y cyflwynwyd y ddarpariaeth yn 2018, o ganlyniad i gynnydd mewn costau gweinyddol a staffio, a’r ffaith nad yw’r cyngor yn derbyn unrhyw gyllid allanol, nid yw hyn yn gynaliadwy mwyach.
I sicrhau fod ysgolion yn gallu parhau i ddarparu’r sesiynau hyn, bydd y ffi i bob plentyn am y sesiwn chwarae 30 munud yn cynyddu i £2 y plentyn (50c i blant sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim) o Fedi 1 2023.
Nid yw’r cynnydd hwn yn effeithio ar y sesiwn brecwast 30 munud yn union cyn dechrau’r diwrnod ysgol, sy’n parhau am ddim i bob plentyn.
Fe wyddom y daw hyn ar adeg pan fo cynifer o breswylwyr yn teimlo fod costau cartref yn heriol. Os ydych chi’n cael trafferth talu costau eich cartref, ewch i dudalennau ‘cymorth gyda chostau byw’ Cyngor Wrecsam am gyngor ar unrhyw gymorth arall a allai fod ar gael i chi.
Mae gan Lywodraeth Cymru hefyd dudalen gymorth yn ymwneud â chostau byw, sy’n darparu gwybodaeth ynglŷn â ffynonellau o gymorth ariannol posibl.
Os hoffech i’ch plentyn fynychu sesiwn frecwast, cysylltwch â’u hysgol i gael y manylion.
A ydych chi’n gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim?
Os ydych chi ar incwm isel, fe allwch fod yn gymwys i dderbyn prydau ysgol am ddim yn ogystal â’r grant Hanfodion Ysgol i helpu gyda phrynu gwisg ysgol a chyfarpar. Ewch i’r dudalen isod i gael gwybod mwy: