Mae Bysiau Arriva Cymru wedi cyhoeddi rhagor o wasanaethau a gaiff eu gweithredu o ddydd Llun, sy’n golygu y bydd mwy o seddi ar gael ar gyfer plant ysgol yn arbennig, a’r rhai sy’n dymuno teithio i’w gwaith neu i siopa.
Mae’r newyddion hwn yn dilyn cyfarfod cadarnhaol iawn ddoe (17.09.2020) rhwng Cyngor Wrecsam a Bysiau Arriva Cymru.
Mae teithio ar gludiant cyhoeddus yn angenrheidiol i nifer ohonom, ac mae Bysiau Arriva Cymru wedi gweithio’n galed i sicrhau eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu, a hynny mewn modd diogel, i roi gwasanaethau ar waith cyn gynted â phosibl.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Meddai Michael Morton, Rheolwr Gyfarwyddwr Bysiau Arriva Cymru: “Rydym yn falch iawn ein bod bellach yn gallu cario mwy o deithwyr ar lwybrau a effeithiwyd gan y cyfyngiadau Covid-19. Bydd y rheolau cadw pellter cymdeithasol ar waith, bydd gofyn i chi wisgo gorchuddion wyneb a gofynnwn i chi gadw at y canllawiau cyfredol er mwyn cadw staff a theithwyr yn ddiogel. Byddwn yn parhau i weithio i ddatblygu ein capasiti lle bo modd.”
Diolch i Fysiau Arriva Cymru
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Cawsom gyfarfod cadarnhaol iawn gyda Michael ac rydym yn falch y bydd gan fwy o breswylwyr fynediad at gludiant cyhoeddus o ddydd Llun ymlaen. Hoffwn ddiolch iddynt am weithredu ar frys a chyflwyno’r gwasanaethau hyn ar ein ffyrdd unwaith eto gan sicrhau fod preswylwyr Wrecsam yn gallu teithio’n ddiogel.”
Cofiwch fod rhaid i bawb wisgo gorchuddion wyneb wrth deithio ar gludiant cyhoeddus, gan eithrio plant dan 11 oed a phobl sydd ag anabledd sy’n golygu na allant wisgo un.
Dyma’r gwasanaethau ychwanegol:
Wrecsam 5CS 16.20 Gorsaf Fysiau Wrecsam 16.45 Ystâd Plas Madoc
Wrecsam 3S 07.45 Gorsaf Fysiau Wrecsam 08.41 Gorsaf Fysiau Wrecsam
Wrecsam 3S 05.15 Gorsaf Fysiau Wrecsam 06.11 Gorsaf Fysiau Wrecsam
Wrecsam 3S 16.15 Gorsaf Fysiau Wrercsam 17.11 Gorsaf Fysiau Wrecsam
Wrecsam 3 17.15 Gorsaf Fysiau Wrecsam 18.11 Gorsaf Fysiau Wrecsam
Wrecsam 3 18.15 Gorsaf Fysiau Wrecsam 19.11 Gorsaf Fysiau Wrecsam
Wrecsam 5CS 08.10 Llangollen 08.32 Gorsaf Fysiau Wrecsam
Wrecsam 8S 08.16 Gorsaf Fysiau WSRecsam 08.50 Gorsaf Fysiau Wrecsam
Wrecsam 11S 08.30 Coedpoeth 08.50 Gorsaf Fysiau Wrecsam
Wrecsam 14S 07.43 Tan-y-Fron 07.49 Brymbo, Stryt Offa (yn gweithredu fel 12S)
Wrecsam 12S 07.49 Brymbo, Stryt Offa Wrecsam
Wrecsam 12S 16.20 Gorsaf Fysiau Wrecsam Brymbo, Stryt Offa (yn gweithredu fel 14S)
Wrecsam 14S 16.43 Brymbo, Stryt Offa, 16.49 Tan-y-Fron
Wrecsam 11S 16.24 Gorsaf Fysiau Wrecsam 16.50 Y Mwynglawdd
Cofiwch fod Covid-19 yn parhau i fodoli yn ein cymunedau, ac os oes arnom ni eisiau parhau i fwynhau ein rhyddid newydd, fel teithio, dylem wneud popeth o fewn ein gallu i osgoi sefyllfa a fyddai’n ymofyn tynnu’r rhyddid hwn oddi arnom.
Am ragor o wybodaeth, ymwelwch â gwefan Bysiau Arriva Cymru https://www.arrivabus.co.uk/wales
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION