Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion da i wasanaethau bysiau
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Newyddion da i wasanaethau bysiau
Pobl a lleY cyngor

Newyddion da i wasanaethau bysiau

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 2, 2018 2:40 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Newyddion da i wasanaethau bysiau
Wrexham Town Centre images, May 2016
RHANNU

Yn dilyn tranc D Jones a’i Fab, rydym wedi bod yn gweithio’n hynod galed i drefnu gwasanaethau ar gyfer y cymunedau hynny yr effeithiwyd arnynt.

Cynnwys
  • Gwasanaeth cyswllt bws newydd ar gyfer Canol y Dref
  • X-5 i wasanaethu Rhiwabon
  • Bydd gwasanaeth Rhif 5 yn cynnwys Rhostyllen
  • “Hynod falch gyda’r gwaith i sicrhau gwasanaethau newydd yn lle’r gwasanaethau blaenorol”

Er bod llawer o wasanaethau wedi eu sicrhau, mae yna nifer o ardaloedd sy’n parhau wedi eu heffeithio.

CYFRIF SNAPCHAT I WRECSAM.

Ond rydym yn falch o gyhoeddi yn ystod yr wythnosau nesaf y darperir nifer o wasanaethau amgen.

Gwasanaeth cyswllt bws newydd ar gyfer Canol y Dref

I’r trigolion hynny yr effeithir arnynt o ganlyniad i golli Gwasanaethau 42 a 44, bydd amrywiad i wasanaeth Cyswllt Tref 1 a Chyswllt Tref 2, a weithredir gan Valentines Coaches, yn gwasanaethu’r ardaloedd hynny oedd yn arfer cael eu gwasanaethu gan D Jones a’i Fab.

Yn amodol ar yr awdurdod angenrheidiol gan Gomisiynydd Traffig Cymru, bydd y gwasanaeth hwn yn dechrau ar 19 Chwefror.

X-5 i wasanaethu Rhiwabon

Yn ogystal, rydym hefyd yn falch o gyhoeddi drwy drafodaethau gyda Chyngor Sir Ddinbych, bydd y trigolion hynny yr effeithir arnynt o ganlyniad i wasanaeth rhif 6 Wrecsam – Rhiwabon yn dod i ben, yn cael budd o addasiad i’r gwasanaeth X5 Corwen-Llangollen-Wrecsam gan Coastline Taxis.

Bydd yr X5 yn cael ei ddargyfeirio i ardaloedd yn Rhiwabon, gan gynnwys Pont Adam a’r ystadau a leolir ar Ffordd Llys Newydd.

Bydd gwasanaeth Rhif 5 yn cynnwys Rhostyllen

Yn olaf, rydym wedi cael gwybod o 11 Mawrth y bydd gwasanaeth Rhif 5 rhwng Wrecsam a Llangollen yn cael ei weithredu’n fasnachol gan Fysiau Arriva Cymru, yn gwneud nifer o newidiadau – gan gynnwys mynd yn ôl i’r llwybr teithio gwreiddiol sy’n gwasanaethu Rhostyllen, ynghyd â chynnydd yn y nifer o wasanaethau nos.

Mae trigolion yn cael eu cynghori i wirio’r amserlen ar gyfer pob un o’r gwasanaethau hyn a adnewyddwyd, felly ni fyddant yn amserlenni tebyg.

“Hynod falch gyda’r gwaith i sicrhau gwasanaethau newydd yn lle’r gwasanaethau blaenorol”

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Fel Cyngor, rydym yn llwyr gydnabod rôl bwysig y rhwydwaith bysiau i sicrhau mynediad i’n trigolion i waith, addysg a gwasanaethau hanfodol.

“I lawer o bobl, yn arbennig y bobl mwyaf diamddiffyn, y bws yw’r unig fath o gludiant ar gael ac mae’n hynod bwysig iddynt.

“Mae tranc D Jones & Son Ltd wedi bod yn gyfnod anodd a heriol iawn i lawer o bobl ac rwy’n falch iawn gyda’r gwaith a wnaed i sicrhau gwasanaethau newydd ac amgen i’r cymunedau hynny sydd wedi eu heffeithio.

“Bydd amserlenni newydd ar gyfer y newidiadau uchod i’r gwasanaeth yn cael eu cyhoeddi’n fuan ac ar gael ar wefan y Cyngor.

“Ni fydd y rhain yn amserlenni tebyg i amserlenni a weithredwyd yn flaenorol, ond yn darparu gwasanaeth i’r ardaloedd hyn.”

Peidiwch â cholli allan…dilynwch ni ar Snapchat.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://newyddion.wrecsam.gov.uk/cyfrif-snapchat-i-wrecsam/”] DILYNWCH NI AR SNAPCHAT [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Cyfle am gyfleuster newydd i roi’r gofal cywir i bobl ar yr amser cywir. Cyfle am gyfleuster newydd i roi’r gofal cywir i bobl ar yr amser cywir.
Erthygl nesaf Cymryd Eich Busnes i'r Lefel Nesaf Cymryd Eich Busnes i’r Lefel Nesaf

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Occupational Therapy Week poster
Digwyddiad gwybodaeth i arddangos gwasanaethau cymdeithasol yn ystod Wythnos Therapi Galwedigaethol
Digwyddiadau Pobl a lle Y cyngor
Hydref 1, 2026
Wrecsam v oxford
Niferoedd parcio a theithio ar gynnydd
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Mayor's engagements - September
Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Medi
Arall Pobl a lle
Hydref 1, 2026
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Byddwch yn ddiogel ac yn wyliadwrus wrth groesfannau sebra.
Pobl a lle
Hydref 1, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

the longest yarn
DigwyddiadauPobl a lle

Dilynwch y pabïau i ‘The Longest Yarn’

Medi 29, 2026
Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam
Pobl a lle

Baby Brave i ddathlu albwm cyntaf arloesol gyda pharti lansio yn Wrecsam

Medi 29, 2026
Dal dwylo
ArallPobl a lle

Rydyn ni’n chwilio am is-gadeirydd ar gyfer ein panel maethu – allech chi fod yr un?

Medi 29, 2026
Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las
Y cyngor

Pryderon am fywyd gwyllt yn Parc Stryt Las

Medi 29, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English