Erbyn hyn, mae pump o Lyfrgelloedd gwasanaeth Llyfrgelloedd Wrecsam yn gweithredu system archebu a chasglu.
Fe allwch archebu llyfrau, yn cynnwys llyfrau sain, o lyfrgelloedd Wrecsam, Brynteg, Y Waun, Gwersyllt a Rhos. Dim ond o’r llyfrgelloedd hyn y bydd modd i chi ddychwelyd, archebu a chasglu stoc am rŵan.
Fe wnawn ein gorau i sicrhau eich bod yn cael y llyfrau rydych eu heisiau mor gyflym ag y gallwn.
Pan fydd eich llyfrau’n barod, fe fyddwn yn cysylltu â chi i drefnu apwyntiad i chi ddod i’w casglu. Gallwch ddychwelyd llyfrau yn yr un apwyntiad ag ydych chi’n casglu llyfrau.
Bydd Llyfrau Gwasanaeth Archebu a Chasglu’n cael eu hadnewyddu’n awtomatig
Os mai dim ond dychwelyd llyfrau rydych chi eisiau gwneud, bydd angen i chi gysylltu â ni drwy e-bost neu ffonio i drefnu apwyntiad. Bydd unrhyw lyfr sydd gennych ar fenthyg ar hyn o bryd ac unrhyw lyfr y byddwch chi’n ei fenthyg trwy’r Gwasanaeth Archebu a Chasglu yn cael ei adnewyddu’n awtomatig, felly does dim angen i chi boeni am eu dychwelyd ar amser, ac ni fyddwch yn cael unrhyw ddirwyon. I gael manylion cysylltu ac i ddefnyddio’r ffurflen archebu, ewch i www.wrexham.gov.uk/llyfrgelloedd.
Mae diogelwch ein staff a chwsmeriaid yn flaenoriaeth i ni ac rydym ni’n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru ar sut i ddelio â llyfrau llyfrgell. Bydd pob llyfr sy’n cael ei ddychwelyd i’r llyfrgell yn mynd i gwarantîn am 72 awr.
Mae’r staff yn edrych ymlaen yn fawr at eich gweld eto!
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN