Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein Polisi Preifatrwydd.
Derbyn
Newyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion gwych i ganol y dref diolch i’r Loteri Genedlaethol
Rhannu
Notification Show More
Newyddion diweddaraf
Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor
Lucy Cowley
Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni
Digwyddiadau Pobl a lle
Newyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Newyddion gwych i ganol y dref diolch i’r Loteri Genedlaethol
Busnes ac addysgPobl a lle

Newyddion gwych i ganol y dref diolch i’r Loteri Genedlaethol

Diweddarwyd diwethaf: 2018/06/13 at 9:35 AM
Rhannu
Darllen 4 funud
Newyddion gwych i ganol y dref diolch i’r Loteri Genedlaethol
RHANNU

Mae newyddion da ar y ffordd i ganol tref Wrecsam.

Cynnwys
Sgiliau adeiladu traddodiadol“Balch iawn o glywed ein bod wedi bod yn llwyddiannus”

Ychydig yn ôl fe gyhoeddom fod gwaith yn cael ei wneud ar gais am gyllid gan y Loteri Genedlaethol er mwyn adfywio rhai o adeiladau hŷn Wrecsam, y tu mewn i Ardal Gadwraeth canol y dref.

Byddai’n canolbwyntio ar rai o’r asedau hanesyddol allweddol yn yr Ardal Gadwraeth, gan gynnwys Marchnad y Cigydd a rhai o’r adeiladau hŷn ar Stryt yr Hôb a’r Stryt Fawr.

Y newyddion gwych yw – buom yn llwyddiannus!

Rydym wedi ennill cymorth blaenorol o £65,000, a’r cyfle i greu cais am £1.52m ymhellach wrth iddyn ni ymestyn y cynlluniau.

PROBLEM GYDA CHEUDWLL? DWEDWCH WRTHYM NI AR-LEIN.

Sgiliau adeiladu traddodiadol

Yn ogystal ag edrych ar adfywio rhai o adeiladau canol y dref yn ffisegol, bydd y cynlluniau’n gysylltiedig â hyfforddiant parhaus mewn sgiliau adeiladu traddodiadol – pethau fel plastro trwy ddefnyddio cymysgedd calch poeth, defnyddio technegau gwaith coed traddodiadol a chymryd gofal gyffredinol o nodweddion hanesyddol pwysig mewn adeiladau rhestredig neu bwysig.

Newyddion gwych i ganol y dref diolch i’r Loteri Genedlaethol

Ni fydd y gwaith i gyd yn cychwyn ar unwaith. Mae angen i ni baratoi ail gais am gyllid i Gronfa Dreftadaeth y Loteri ac os bydd hwnnw’n llwyddiannus cawn dros ((X)), a byddai hynny’n golygu y gallem fwrw ati â’r gwaith.

Byddai’r cynllun yn rhoi cyfle i berchnogion adeiladau wella golwg a defnyddioldeb eu hadeiladau yn sylweddol trwy wneud gwaith addasu, ailosod nodweddion traddodiadol a gollwyd a gwneud gwaith atgyweirio hanfodol – a gallai hyd yn oed roi defnydd newydd i adeiladau gwag a segur a lloriau uwch.

Byddai hefyd yn gweithio ochr yn ochr â rhaglenni parhaus eraill sy’n ceisio adfywio canol y dref.

“Balch iawn o glywed ein bod wedi bod yn llwyddiannus”

Dywedodd y Cyng. Terry Evans, Aelod Arweiniol Perfformiad Economaidd ac Adfywio: “Mae hwn yn newyddion gwych ac rwy’n falch iawn o glywed bod ein hymdrechion wedi bod yn llwyddiannus.

“Hoffwn ddiolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, trwy chwarae’r Loteri maent yn gwneud gwahaniaeth enfawr i drefi fel Wrecsam.

“Diolch i Gronfa Dreftadaeth y Loteri am gymeradwyo ein cais, a diolch hefyd i swyddogion am yr holl waith caled y maent wedi’i wneud ar y cais – wrth gyflwyno cais ni allwn warantu y byddwn yn ennill, felly mae eu gwaith caled a’u hymdrechion yn haeddu cydnabyddiaeth.

“Ni fydd hyn yn digwydd i gyd ar unwaith – os bydd popeth yn mynd yn iawn gyda Cham 2 y cais, ni fydd y gwaith yn dechrau tan y flwyddyn nesaf, felly mae popeth yn dal yn y fantol.

“Ond mae’n edrych yn addawol iawn ac os byddwn yn llwyddiannus byddai’r gwaith hwn yn cyd-fynd â llawer o waith adfywio arall sy’n digwydd yng nghanol tref Wrecsam.”

Problem gyda cheudwll? Dwedwch wrthym ni yn hawdd ac yn gyflym ar-lein.

DWEDWCH WRTHYM AM GEUDWLL

Rhannu
Erthygl flaenorol Playday Paratowch i wlychu a baeddu – mae’r Diwrnod Chwarae yn ôl!
Erthygl nesaf Road safety Sut ydym ni’n mynd i wella ein ffyrdd dros y flwyddyn nesaf? Edrychwch ar hyn…

Cysylltu

590 Dilynwyr Hoffi
1k Dilynwyr Dilyn
500 Dilynwyr Dilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Family Teulu
Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
ruthin road
Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun
Pobl a lle Y cyngor Awst 8, 2025
Exterior of Wisteria Court
Cyngor Wrecsam yn Dathlu Cwblhau Rownd Arall o Waith Adnewyddu Tai Gwarchod
Arall Awst 8, 2025
Road maintenance
Cyngor Wrecsam yn dyrannu dros £5 miliwn i helpu i gynnal ffyrdd, troedffyrdd a seilwaith arall
Arall Y cyngor Awst 7, 2025

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Family Teulu
Pobl a lleY cyngor

Mwy o gymorth ariannol i ofalwyr maeth

Awst 8, 2025
ruthin road
Pobl a lleY cyngor

Cofiwch am wasanaeth Parcio a Theithio Ffordd Rhuthun

Awst 8, 2025
Lucy Cowley
DigwyddiadauPobl a lle

Lucy Cowley yw dysgwr y flwyddyn eleni

Awst 6, 2025
Jayne Bryant
Busnes ac addysgPobl a lle

Cymunedau Cymru i dderbyn hwb adfywio gwerth £17m

Awst 5, 2025
Wrexham County Borough Council
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Dolenni cyflym

  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Newyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI

© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam

Wedi’i dynnu oddi ar y rhestr ddarllen.

Undo
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Lost your password?
  • Cymraeg
  • English