Mae cynghorydd wedi croesawu’r newyddion bod King Street Coffee Company wedi’i gynnwys yn y “North and North Wales Independent Coffee Guide” diweddaraf.
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol yr Economi ac Adfywio:
“Mae’n newyddion da iawn a haeddiannol iawn. Mae nifer o fasnachwyr annibynnol yn Wrecsam sy’n helpu i wneud canol ein tref yn llwyddiant drwy ansawdd eu cynnig a’u gwaith caled. Llongyfarchiadau i Phil ac Andy sy’n llawn haeddu’r gydnabyddiaeth hon.”
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU
Mae’r Canllaw yn rhoi gwybodaeth i bobl am leoliadau sy’n gwerthu a rhostio coffi arbenigol yn y rhanbarth. Mae’n arddangos y prif siopau coffi, o Landudno yr holl ffordd i fyny i Northumberland. Mae 180 o siopau coffi a lleoliadau rhostio coffi o’r ansawdd gorau wedi’u dewis â llaw gan arbenigwyr coffi arweiniol y Rhanbarth.
Mae cofnod King Street Coffee Company yn cynnwys lluniau gan y Rheolwr Cyrchfan Joe Bickerton, a ddywedodd:
“Roedd hi’n wych i weld rhai o’m lluniau wedi’u cyhoeddi yn y Northern Independent Coffee Guide newydd! Pam? Oherwydd rwy’n adnabod pobl wych sydd wedi rhoi popeth i mewn i greu siop goffi wych, King Street Coffee Company yng nghanol Wrecsam ac eleni maen nhw wedi’u cynnwys yn y canllaw!”
Bydd y canllaw ar gael i’w brynu yn siop King Street Coffee Company a Bank Street Coffee o ddydd Llun 18 Medi neu mae ar gael i’w archebu nawr ar https://www.indycoffee.guide/
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau
COFRESTRWCH FI