Mae ein hardaloedd chwarae plant a champfeydd awyr agored yn ailagor o yfory ymlaen – dydd Gwener, Gorffennaf 24, 2020.
Cafodd yr holl gyfleusterau hyn eu cau ym mis Mawrth yn unol â rheolau’r cyfnod clo yn dilyn y pandemig coronafeirws.
Byddwch yn ymwybodol y bydd yr holl adeiladau sy’n ymwneud â’r safleoedd hyn yn parhau ar gau tan yr hysbysir yn wahanol.
Yn unol â chyhoeddiad llywodraeth Cymru i lacio’r cyfyngiadau, bydd rheolau newydd y dylid glynu atynt er diogelwch pawb, bydd y rheolau yn cael eu dangos ar arwyddion o amgylch y cyfleusterau hyn.
Darllenwch y canllawiau diogelwch yn ofalus os ydych yn bwriadu ymweld ag unrhyw ardaloedd chwarae:-
- Os nad yw’r cyfleuster ardal chwarae yr ydych yn ymweld â hi wedi agor yn swyddogol eto, peidiwch â cheisio defnyddio’r offer na’r ardal
- Peidiwch â thynnu unrhyw rwystrau dros dro yn yr ardal chwarae, na thynnu ceblau clymu sydd wedi cael eu defnyddio i ddiogelu mynedfa neu offer – rhaid i hyn gael ei wneud yn ddiogel gan staff CBSW.
- Dilynwch y canllawiau cadw pellter cymdeithasol presennol wrth ymweld, ac anogwch eich plant i wneud yr un fath
- Os yw’r ardal chwarae yn brysur, ystyriwch ddod yn ôl ar amser gwahanol. Siaradwch gyda’ch plant am y posibilrwydd yma cyn i chi gyrraedd, er mwyn osgoi siom.
- Golchwch eich dwylo eich hun a dwylo eich plentyn cyn ac ar ôl ymweld â’r ardal chwarae. Ewch â diheintydd dwylo gyda chi ac ystyriwch fynd a photel o ddŵr gyda chi os yw dwylo eich plentyn yn mynd yn fudr.
- Dilynwch a glynwch ar holl gyngor presennol y llywodraeth, yn ogystal â’r canllawiau uchod, a dilynwch yr holl wybodaeth ar yr arwyddion sydd wedi’u gosod ar y giatiau mynediad.
Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Bydd rhieni’n croesawu’r newyddion bod yr ardaloedd chwarae yn ailagor, yn arbennig gan fod gwyliau’r haf yma. Fodd bynnag, anogaf bawb i fod yn wyliadwrus a dilyn y canllawiau er mwyn cadw pawb yn ddiogel.
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN