Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Newyddion gwych wrth i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ennill Gwobr Ansawdd
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Rhybudd tywydd - 26-27 Awst
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Newyddion gwych wrth i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ennill Gwobr Ansawdd
Y cyngor

Newyddion gwych wrth i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ennill Gwobr Ansawdd

Diweddarwyd diwethaf: Chwefror 5, 2021 9:49 am
Rhannu
Darllen 4 funud
Great news as Wrexham Family Information Service achieves Quality Award
RHANNU

Mae hi wedi bod yn gychwyn gwych i 2021 i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam (GGDW) gan iddynt ganfod yn ddiweddar eu bod wedi ennill Gwobr Ansawdd Teuluoedd yn Gyntaf ar gyfer Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd.

Cynnwys
  • “Angerddol iawn dros eu gwaith”
      • Roedd agwedd gynhwysol yn amlwg
      • Ynglŷn â GGDW
      • Sylwadau gan rieni
      • Cysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam

Cynhaliwyd dau ddiwrnod asesu ar-lein yn Nhachwedd a Rhagfyr y llynedd, ble bu i’r asesydd gysgodi staff, siarad gyda theuluoedd sydd wedi defnyddio’r gwasanaeth a sefydliadau a gwasanaethau partner.

Bu i’r GGDW hefyd gyflwyno portffolio cynhwysfawr o dystiolaeth fel rhan o’r broses, ac roedd y staff wrth eu bodd o gael y newyddion da yn Ionawr.

Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws

“Angerddol iawn dros eu gwaith”

Dywedodd y Cynghorydd Andrew Atkinson, Aelod Arweiniol y Gwasanaethau Plant: “Mae hon yn wobr hynod o haeddiannol am yr holl waith gwych mae Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn ei wneud ar draws y fwrdeistref sirol. Mae’r staff yn angerddol iawn dros eu gwaith a wirioneddol yn poeni am y gwasanaethau a ddarparant, felly hoffwn ddweud ‘da iawn’ wrth bob un ohonynt. Gall pawb sy’n rhan o GGDW fod yn hynod o falch o’u cyflawniad.”

Roedd agwedd gynhwysol yn amlwg

Roedd adroddiad yr asesydd yn nodi’r sgiliau, gwybodaeth ac arbenigedd y staff yn benodol. Mae darn o’r adroddiad yn nodi: ‘Roedd agwedd gynhwysol, yn seiliedig ar gryfderau yn amlwg yn y ffordd roedd y staff yn ymwneud â defnyddwyr gwasanaeth ac yn cyfathrebu’n barchus, gwrando’n ofalus arnynt i ganfod a chadarnhau eu sefyllfa a’u hanghenion presennol, a defnyddio agwedd yn peidio â barnu.

‘Rhoddwyd gwybodaeth heb ragfarn, ac roedd defnyddwyr gwasanaeth yn rhan fawr o’r broses o wneud penderfyniadau wrth edrych ar ddewisiadau ac adolygu’r camau nesaf. Roedd dealltwriaeth y tîm o’r dewisiadau atgyfeirio yn helaeth.’

Ynglŷn â GGDW

Mae Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam yn darparu gwybodaeth, cyngor ac arweiniad arbenigol i deuluoedd sydd â phlant 0-19 oed yn byw ym mwrdeistref sirol Wrecsam, yn ogystal â darpar rieni, i gefnogi lles a bywyd teuluol. Ariennir y gwasanaeth yn rhannol gan Deuluoedd yn Gyntaf.

Newyddion gwych wrth i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ennill Gwobr Ansawdd
Newyddion gwych wrth i Wasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam ennill Gwobr Ansawdd

Sylwadau gan rieni

Dywedodd Rhiant 1: “Gwych. Maent yn gwybod â phwy i gysylltu. Maent yn cymryd camau dilynol a ffonio a tecstio. Rydym wedi cael grantiau i helpu gyda’r wisg ysgol. Bu i’r gwasanaeth ein stopio rhag poeni.”

Dywedodd Rhiant 2: “Cefais gefnogaeth ar gyfer gofal hanner tymor pan rwyf yn y gwaith. Gall fy mechgyn chwarae nawr trwy Ffrindiau Teulu. Maent yn edrych am Therapydd Galwedigaethol i ni. Mae’r gwasanaeth wedi newid ein bywydau.”

Cysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam

Gallwch gysylltu â Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Wrecsam trwy ffonio 01978 292094, neu anfon e-bost at fis@wrexham.gov.uk

Maent hefyd ar gael ar y cyfryngau cymdeithasol (gweler y dolenni isod):

Facebook GGD

Twitter GGDC

???? Darganfyddwch y ffeithiau…darllenwch y gwybodaeth diweddaraf am brechlyn Covid-19 gan GIG Cymru ????

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/gwybodaeth-brechlyn-covid-19/”]CANFOD Y FFEITHIAU[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Children's Social Services Gwelliannau i Ofal Cymdeithasol Plant a adroddwyd wrth y Bwrdd Gweithredol
Erthygl nesaf Covid-19 Nodyn Briff Covid-19 05.02.21 – Cynnydd sicr yn cael ei ddangos

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Parc sglefrio newydd gwerth £100,000 yn agor yn Rhosddu
Pobl a lle Y cyngor
Awst 27, 2026
Tattoo Cymru 2026
Tattoo Cymru yn dychwelyd i Wrecsam gyda Salíwt i Filwr y Môr
Digwyddiadau Pobl a lle
Awst 26, 2026
Mayor at the Welsh Blood Service donation clinic
Maer yn rhoi gwaed i gefnogi ymgyrch rhoi
Arall Pobl a lle
Awst 26, 2026
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
The Base – Cymorth ieuenctid yng nghymunedau Wrecsam
Y cyngor
Awst 25, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
DigwyddiadauPobl a lleY cyngor

Cyhoeddi dyddiad agor Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Awst 25, 2026
Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst
Y cyngor

Dim newidiadau i gasgliadau biniau dros ŵyl banc mis Awst

Awst 24, 2026
Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan
Y cyngor

Staff y Cyngor yn codi dros £325 ar gyfer Bore Coffi Macmillan

Awst 18, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio WrecsamY cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam

Awst 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English