Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yw’r man cyntaf am gyngor a gwybodaeth ar wasanaethau lleol i deuluoedd a gofalwyr.
Mae’r Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd yn darparu cymorth, cefnogaeth a chyngor ynglŷn ag amrywiaeth o faterion teuluol, gan gynnwys: Gofal plant a help gyda chostau gofal plant, Gofal iechyd, Addysg a Hyfforddiant, Gwasanaethau hamdden a Arian.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost.
Maen nhw’n gallu eich helpu chi i gysylltu ag arbenigwyr fydd yn rhoi help a chyngor i chi sydd wedi’i deilwra’n arbennig ar gyfer eich anghenion unigol chi. Maen nhw hefyd yn gallu eich cyfeirio at wybodaeth ddefnyddiol ac at raglenni Llywodraeth Cymru.
Os hoffech chi gwrdd â’r tîm yna beth am ymweld â nhw yn ystod eu sesiynau galw heibio newydd yn y llyfrgelloedd canlynol:
- Llyfrgell Coedpoeth ar ddydd Mawrth cyntaf y mis – 2-4yp
- Canolfan Adnoddau Cymunedol Gwersyllt ar drydydd dydd Mercher y mis – 1-3yp (yn dechrau 18 Mai)
- Llyfrgell Rhos ar ddydd Mercher olaf y mis – 10-12yp (yn dechrau 25 Mai)
- Llyfrgell Wrecsam ar ail ddydd Gwener y mis – 10-12yp (yn dechrau 13 Mai).
Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.
TANYSGRIFWYCH