Oes gan eich plentyn ddyfais laser? Ydych chi’n bwriadu cael un i roi yn eu hosan ar gyfer y Nadolig?
Os felly, mae perygl gwirioneddol y gallent achosi niwed parhaol i’w golwg neu i olwg rhywun arall. Nid teganau ydynt, ac ni ddylid eu defnyddio fel teganau.
Y cyngor diweddaraf gan Swyddfa Diogelwch a Safonau Cynnyrch yw tynnu’r batris a chael gwared ohonynt mewn modd cyfrifol.
PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM DDIWEDDARIADAU WYTHNOSOL.
Mae mwy o gyngor yma (https://www.gov.uk/government/organisations/office-for-product-safety-and-standards)
Mae dyfeisiau laser yn ddyfeisiau llaw sy’n rhyddhau pelydryn laser o olau lliw. Defnyddir hwy mewn meddygaeth, addysg ac adeiladu, ond maent yn dod yn boblogaidd ymysg plant, ac o ganlyniad mae rhai’n dioddef o anafiadau i’w golwg. Wrth eu camddefnyddio gallent achosi niwed parhaol.
Yn y DU mae’n anghyfreithlon gwerthu laserau pwerus i’r cyhoedd, ond maent ar gael ar-lein neu gan werthwyr ar y strydoedd, ac yn aml cânt eu labelu â gwybodaeth ffug neu anghywir – gallent fod yn fwy pwerus ac yn fwy peryglus na’r hyn a ddisgrifir ar y label.
#losethelasers
Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am wythnosol rŵan.
COFIWCH EICH BINIAU