Hoffem anfon neges atgoffa bwysig am yr amgylchiadau cyfyngedig lle caiff plant gweithwyr allweddol a dysgwyr agored i niwed fynd i’r ysgol i dderbyn addysg wyneb yn wyneb.
Beth ydi’r meini prawf?
Ar hyn o bryd mae dysgu wyneb yn wyneb mewn ysgolion wedi’i atal gan Llywodraeth Cymru, ac eithrio i blant gweithwyr allweddol a dysgwyr agored i niwed os bodlonir y meini prawf canlynol:
Yn ôl y canllawiau diweddaraf DIM OND os nad oes dewis diogel arall y dylai plant gweithwyr allweddol fynd i’r ysgol, a DIM OND ar y diwrnodau y mae eu rhieni’n gweithio.
Gallwch ddarllen canllawiau Llywodraeth Cymru ar ysgolion yma.
Hyd nes bod gostyngiad sylweddol yn y cyfraddau heintio, dydi’r canllawiau hyn ddim yn debygol o newid.
Darganfyddwch y gwybodaeth diweddaraf am Brechlyn Coronafeirws
“Diogelu ein cymunedau”
Meddai’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg: “Dim ond rhieni a gofalwyr sy’n hanfodol i’r ymateb Covid-19, neu sy’n gweithio mewn sectorau allweddol fel gofal cymdeithasol ac iechyd, sydd i fod i ddefnyddio ysgolion a hynny pan nad oes dewis diogel arall ar gael. Mae pob un ohonom ni wedi gweld y cyfraddau heintio diweddaraf yn Wrecsam ac felly mae arnom ni angen gwneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu ein cymunedau.”
“Parchwch y rheolau”
Ychwanegodd Karen Evans, Prif Swyddog Addysg ac Ymyrraeth Gynnar: “Er mwyn sicrhau diogelwch pawb, mae’n bwysig mai’r unig rai sy’n fanteisio ar y ddarpariaeth yw’r rhai sydd wir ei angen. Rhaid i bawb sy’n gallu aros adref aros adref. Parchwch y rheolau os gwelwch yn dda.
“Mae’n bwysig iawn bod y rheiny sydd angen llefydd yn gwneud popeth o fewn eu gallu hefyd, fel peidio â rhannu car gyda phobl o aelwydydd eraill neu drefnu mynd i chwarae gyda phlant eraill ar ôl ysgol. Mae’r rhain i gyd yn groes i’r rheolau ac os ydych chi’n gwneud hyn rydych chi’n peryglu’ch teulu ac eraill. Os ydi pawb yn gwneud popeth y gallan nhw, bydd hynny wedyn yn gymorth i leihau cyfraddau heintio ac i ailagor ein hysgolion yn gynt.”
Dywedodd y Cynghorydd Wynn: “Rydym ni’n cydymdeimlo ac yn deall pa mor anodd ydi dysgu gartref i lawer o deuluoedd ar draws Wrecsam, ond mae’n bwysig ein bod ni’n dilyn canllawiau Llywodraeth Cymru i ddiogelu pawb.”
Addysgu gartref
I dderbyn cyngor ar addysgu gartref, gan gynnwys rhestr o adnoddau defnyddiol, edrychwch ar yr erthygl blog yma:
Canllawiau Llywodraeth Cymru:
Dydi un gweithiwr allweddol ddim o reidrwydd yn golygu bod y plant yn cael lle yn yr ysgol, ac os oes modd gofalu am y plant yn ddiogel gartref dylid gwneud hynny.
Dydi anawsterau wrth geisio cydbwyso dysgu gartref a gweithio gartref ddim yn rheswm i ddefnyddio’r ddarpariaeth, oni bai bod yr unigolyn sy’n gweithio gartref yn weithiwr allweddol a methu â gofalu am y plentyn yn ddiogel.
Os ydi’r ysgol yn llawn, yn seiliedig ar yr asesiad risg, efallai y bydd rhai plant yn cael eu blaenoriaethu yn seiliedig ar swyddi’r rhieni.
CANFOD Y FFEITHIAU