Fel rhan o’r cyfnod atal byr am bythefnos, rydym eisiau atgoffa preswylwyr y bydd ein tair canolfan ailgylchu yn cau.
Pryd fydd y safleoedd yn cau?
Bydd Bryn Lane, Plas Madoc a Brymbo yn cau am 4pm dydd Gwener, 23 Hydref.
Mewn datganiad ar y cyd, dywedodd y Cynghorydd David A Bithell, Dirprwy Arweinydd Cyngor Wrecsam ac Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant, a Darren Williams, Prif Swyddog yr Amgylchedd a Thechnegol:
“Yn dilyn cyhoeddiad Llywodraeth Cymru, byddwn yn cau ein tair canolfan ailgylchu yn Wrecsam ar gyfer y cyfnod atal byr yng Nghymru. Rydym yn gofyn i bobl fod yn gyfrifol am eu gwastraff yn ystod y cyfnod, a chadw unrhyw wastraff ychwanegol ac eitemau mawr tan fydd ein cyfleusterau yn ailagor ar ddydd Llun, 9 Tachwedd.
“Peidiwch â chael eich denu i dipio eich sbwriel… peidiwch â gadael y gwastraff wrth y giât neu ar ochr y ffordd, neu unrhyw le na ddylai gael ei adael. Gadewch i ni gyd weithio gyda’n gilydd a bod yn gyfrifol. Diolch.”
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Pryd fyddent yn ailagor?
Bydd pob safle yn ailagor dydd Llun, 9 Tachwedd, ar eu hamseroedd agor arferol:
- Bryn Lane 8am – 8pm
- Plas Madoc 9am – 4pm
- Brymbo 9pm- 4pm (apwyntiadau yn unig)
Gan fod rhaid i chi wneud apwyntiad i ymweld â chyfleuster Brymbo, gallwch eu ffonio o ddydd Llun, 2 Tachwedd ymlaen ar 01978 801463. Peidiwch â cheisio eu ffonio rhwng 24 Hydref a 1 Tachwedd, gan na fydd y rhifau ffôn ar agor.
Bydd y siop ailddefnyddio yng nghanolfan ailgylchu Bryn Lane ar gau yn ystod cyfnod atal byr, felly cadwch unrhyw gyfraniadau sydd gennych tan fydd yn ailagor.
Beth ddylech ei wneud tra bydd y safleoedd ar gau
Tra bo’r safleoedd ar gau, rydym yn gofyn i chi:
- I geisio lleihau’r gwastraff yr ydych yn ei greu – peidiwch â chlirio eich tŷ, neu wneud unrhyw beth arall sy’n achosi sbwriel ychwanegol (e.e. prosiectau DIY penodol ayyb). Rydym yn deall nad yw’n hawdd, ond ceisiwch beidio â chreu rhagor o wastraff.
- Rhowch unrhyw wastraff garddio yn eich bin gwyrdd fel yr arfer (os ydych wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casgliadau gwastraff gardd) , a chadwch unrhyw wastraff garddio ychwanegol yn eich gardd am y tro. Er enghraifft, os ydych wedi bod yn tocio eich llwyni, efallai bydd rhaid i chi roi’r toriadau mewn pentwr am y tro.
- Cadwch unrhyw eitemau eraill a fyddech fel arfer yn mynd i’r ganolfan ailgylchu leol (hen ddodrefni, pren, nwyddau trydanol ayyb) gartref am y tro.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG