Rydym eisiau atgoffa preswylwyr sydd wedi cofrestru ar gyfer y gwasanaeth casglu gwastraff gardd y bydd casgliadau yn cael eu cynnal yn fisol eto yn ystod mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror.
Meddai’r Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym yn lleihau nifer y casgliadau gwastraff gardd i gasgliadau misol ym mis Rhagfyr, Ionawr a Chwefror, fel rydyn ni wedi’i wneud dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Rydym yn gwneud hyn gan fod y galw am gasgliadau yn sylweddol is ac mae hyn yn golygu y bydd rhagor o aelodau staff yn rhydd i’n helpu ni i ymdrin â phroblemau a gaiff eu hachosi gan y gaeaf, fel llwybrau graeanu neu waith cynnal a chadw cyffredinol.”
Diogelu’r bobl yr ydych yn eu caru, lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG.
Ydych chi wedi cofrestru i dderbyn hysbysiadau casglu sbwriel eto?
Gallwch gadw llygad ar bryd i roi eich biniau gwastraff gardd allan yn ystod misoedd y gaeaf drwy gofrestru ar gyfer ein hysbysiadau casglu sbwriel. Byddwch yn derbyn rhybudd dros e-bost ddiwrnod cyn y casgliad i’ch atgoffa chi. Os ydych eisoes yn derbyn yr e-byst hyn, nid oes arnoch chi angen newid dim byd.
Gallwch hefyd weld gwybodaeth ynghylch eich casgliadau bin ar Fy Nghyfrif. Mae cofrestru yn syml iawn, ac oll sydd arnoch chi angen ei wneud yw gwasgu Gwasanaethau > Gwastraff ac Ailgylchu > Gwirio’ch diwrnod bin. Yma, gallwch lawrlwytho ac argraffu ein calendrau biniau diweddaraf.
Sicrhewch eich bod yn derbyn yr hysbysiadau cywir
Gallwch gadw trefn ar ddiwrnod casglu eich gwastraff gardd drwy dderbyn ein negeseuon e-bost i’ch atgoffa, ond gwiriwch fod yr unigolyn sy’n gosod y biniau allan i’w casglu wedi cofrestru i dderbyn yr hysbysiadau cywir gennym ni. Os defnyddiwyd cyfeiriad e-bost gwahanol i gyfeiriad e-bost yr unigolyn hwnnw wrth gofrestru ar gyfer y casgliad gwastraff gardd, yr oll sy’n rhaid i chi ei wneud yw cwblhau ein ffurflen i wirio eich diwrnod bin.
Byddwch ond angen i chi nodi eich cod post, eich cyfeiriad a’ch cyfeiriad e-bost a gwasgu ‘cyflwyno’, bydd gwneud hyn yn diweddaru ein system e-bost atgoffa yn awtomatig ac yn sicrhau eich bod yn cael y nodyn atgoffa cywir.
Lawrlwythwch yr ap Covid-19 GIG ….a helpwch i gadw Wrecsam yn ddiogel yr hydref yma.
Lawrlwythwch yr ap GIG