Dros y dyddiau nesaf, bydd cannoedd o staff GIG a gwirfoddolwyr ychwanegol yn ymuno â’r ymdrech frechu yng Ngogledd Cymru.
Y nod yw cynnig pigiad atgyfnerthu i bob oedolyn cymwys erbyn diwedd y mis hwn – i helpu i gyfyngu ar effaith yr amrywiolyn Omicron hynod heintus.
Mae’n dasg enfawr i’n gwasanaethau iechyd, sy’n parhau i weithio’n eithriadol o galed i’n cadw ni’n ddiogel.
Felly os gwelwch yn dda – pan fyddwch yn cael cyfle, ewch i gael eich pigiad atgyfnerthu.
Sut i gael eich pigiad atgyfnerthu
Os nad ydych wedi derbyn gwahoddiad ar gyfer pigiad atgyfnerthu eto, gellir archebu ar-lein rwan neu fynd i glinig galw heibio.
Neu mae’n bosibl y byddwch yn derbyn gwahoddiad uniongyrchol gan eich meddygfa neu fferyllfa gymunedol.
Os oes gennych apwyntiad eisoes ym mis Rhagfyr, yna cadwch hwn.
Os ydych yn gaeth i’ch cartref, nid oes angen cysylltu â’r GIG. Mae gan y bwrdd iechyd lleol eich manylion eisoes ac mae’n gweithio mor fuan â phosibl i’ch cyrraedd cyn diwedd mis Rhagfyr.
“Prawf llif cyn mynd”
Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i chi ystyried gwneud “prawf llif unffordd cyn mynd allan”.
Felly, os ydych yn mynd i siopa, mynd i weld ffrindiau neu deulu, neu’n mynd i le prysur, ceisiwch wneud prawf cyn mynd.
Gallwch archebu profion am ddim ar wefan Llywodraeth Cymru neu o fferyllfa leol.
Gallwch hefyd eu casglu yn:
- Tŷ Pawb
- Amgueddfa Wrecsam
- Llyfrgell Wrecsam
- Canolfan Hamdden y Waun
- Canolfan Hamdden Gwyn Evans
Gwisgwch fasg
Oni bai eich bod wedi’ch eithrio, mae angen i chi barhau i wisgo masg dan do yn y rhan fwyaf o leoedd yng Nghymru – fel siopau ac ar gludiant cyhoeddus.
Ysgolion yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun (20 Rhagfyr)
Bydd ysgolion ledled Wrecsam yn symud i ddysgu o bell o ddydd Llun nesaf (20 Rhagfyr) i helpu i gadw pawb yn ddiogel wrth nesáu at y Nadolig.
Gwnaed y penderfyniad yn dilyn cynnydd mewn achosion Covid yn y fwrdeistref sirol ac ar draws y rhan fwyaf o’r DU, gyda nifer o blant a phobl ifanc yn gorfod ynysu.
Hefyd mae posibilrwydd y bydd cadw ysgolion ar agor yr wythnos nesaf yn golygu mwy o bobl yn dal y feirws ac yn gorfod ynysu dros y Nadolig – a fyddai’n cael effaith anferth ar nifer o deuluoedd a chymunedau lleol.
O ganlyniad, gwnaed y penderfyniad i symud i ddysgu ar-lein o ddydd Llun am ddiwrnodau olaf y tymor