Tŷ Pawb fydd oriel gyntaf y DU i gynnal arddangosfa deithiol o un o sioeau celf mwyaf mawreddog y byd, gan ddechrau’r mis nesaf.
Mae Cymru yn Fenis yn cymryd celfyddydau gweledol o Gymru i un o arddangosfeydd celf mwyaf mawreddog y byd, La Biennale, a gynhelir yn Fenis bob dwy flynedd.
Ar gyfer Biennale 2019, dewiswyd Sean Edwards o Gaerdydd fel arlunydd Cymru yn Fenis.
Cafodd ei arddangosfa unigol, Dadwneud y Pethau a Wnaethpwyd, ei dangos yn eglwys brydferth Santa Maria Ausiliatrice yn Fenis am 6 mis yn ystod La Biennale.
“Ennyd arwyddocaol” i Dŷ Pawb a Wrecsam
Felly sut mae Tŷ Pawb ynghlwm wrth y peth?
Efallai eich bod wedi darllen y newyddion anhygoel yn gynharach eleni bod Tŷ Pawb wedi’i ddewis fel y sefydliad arweiniol ar gyfer Cymru yn Fenis eleni.
Mae hyn yn golygu y bydd arddangosfa Cymru yn Fenis 2019, Dadwneud y Pethau a Wnaethpwyd, yn dod i Dŷ Pawb, y lleoliad cyntaf yn y DU ar daith yr arddangosfa.
Bydd hwn yn ennyd arwyddocaol i gyfleuster marchnadoedd, celfyddydau a chymunedol gwobredig Wrecsam.
Wrecsam ‘yn chwifio’r faner dros gelfyddydau Cymru’
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau, Gwarchod y Cyhoedd a Diogelwch Cymunedol: “Mae hi wedi bod yn anrhydedd fawr i Dŷ Pawb fod y sefydliad arweiniol dros Gymru yn Fenis 2019 ac rydym yn falch iawn mai Wrecsam fydd y gyrchfan gyntaf ar daith 2020 o arddangosfa deimladwy ac ingol Sean Edwards.
“Mae Cymru yn Fenis yn chwarae rôl enfawr wrth chwifio’r faner dros gelfyddydau Cymru yn un o arddangosfeydd celf mwyaf mawreddog y byd, ac rydym yn falch o allu dod ag ychydig o’r sylw rhyngwladol i Wrecsam a Thŷ Pawb.”
Cadwch y dyddiad yn rhydd
- Mae Dadwneud y Pethau a Wnaethpwyd yn agor yn Nhŷ Pawb 18 Chwefror tan ddydd Sul 26 Ebrill.
- Mae’r arddangosfa yna’n teithio i Senedd Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Caerdydd (26 Gorffennaf – 9 Medi 2020) a Bluecoat, Lerpwl (6 Tachwedd, 2020 – 14 Mawrth 2021).