Bu tân yng ngwaith ailgylchu gwastraff FCC yn Lôn y Bryn y bore yma (dydd Mawrth, Gorffennaf 1af).
Rydym yn falch o ddweud na chafodd neb ei anafu, ond mae’n golygu nad ydym wedi gallu gwagio ein wagenni biniau fel arfer, sydd wedi ein rhoi ar ei hôl hi gyda chasgliadau biniau heddiw.
Mae’n debygol y bydd hyn yn cael effaith ganlyniadol am yr ychydig ddyddiau nesaf, wrth i ni geisio dal i fyny â’n rowndiau.
Rhowch eich biniau / ailgylchu allan ar eich diwrnod casglu arferol, ond os na chânt eu casglu, gadewch nhw allan a byddwn yn ceisio cyrraedd atoch yn ddiweddarach yn yr wythnos.
Ymddiheurwn am unrhyw anghyfleustra a diolch am eich amynedd.