Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Oes gennych chi gar trydan?
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Oes gennych chi gar trydan?
ArallY cyngor

Oes gennych chi gar trydan?

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 7, 2018 4:20 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Decarbonisation
RHANNU

Mae’n bosibl y bydd pwyntiau gwefru cerbydau trydan yn cael eu gosod ar hyd a lled y Fwrdeistref Sirol, os yw’r Bwrdd Gweithredol yn cymeradwyo’r cynnig.

Y cynnig yw gosod pwyntiau gwefru ym meysydd parcio’r Byd Dŵr, Tŷ Pawb, Parc Gwledig Tŷ Mawr, Parc Gwledig Dyfroedd Alun a Thraphont Ddŵr Pontcysyllte. Bydd y gwaith yma yn ategu ymrwymiad y Cyngor i leihau carbon ac arbed ynni. Mae lleoliadau’r pwyntiau wedi eu hystyried yn ofalus er mwyn annog ymwelwyr i ganol y dref a chefnogi twristiaeth yn yr ardal.

PEIDIWCH BYTH Â METHU CASGLIAD BINIAU – COFRESTRWCH AM EBOSTIAU WYTHNOSOL RŴAN.

Dengys ymchwil bod dros 47,000 o geir trydan wedi eu cofrestru yn 2017, y nifer mwyaf mewn blwyddyn ym Mhrydain. Mae hyn yn golygu bod angen cefnogi a chynnal seilwaith i gwrdd â’r galw yma ac annog mwy o bobl i ddefnyddio ceir trydan.

Bydd y pwyntiau gwefru yn cael eu cyllido o’r gyllideb garbon, sy’n cynnwys incwm o fentrau gwyrdd fel ein Fferm Solar Legacy. Bydd cyllid pellach yn cael ei geisio gan Lywodraeth Cymru i ariannu cam dau, sef gosod pwyntiau gwefru mewn ardaloedd eraill a’r Stad Ddiwydiannol.

Dywedodd y Cyng. David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Mae gennym ni enw da am leihau carbon, gan gynnwys defnyddio dau gerbyd trydan, gosod paneli solar ar eiddo Cyngor ac agor fferm solar gyntaf Cymru, Legacy. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn dymuno cael sector cyhoeddus carbon niwtral erbyn 2030 ac mae’r Deyrnas Unedig yn gobeithio rhoi’r gorau i werthu ceir disel a phetrol erbyn 2040, ac felly bydd y fenter hon yn cynorthwyo i gyrraedd y nodau hyn.”

Bydd y Bwrdd Gweithredol yn cyfarfod ar 13 Mawrth am 10.00am yn Neuadd y Dref. Mae croeso i chi ddod i’r cyfarfod hwn, neu ei wylio’n fyw ac ar-lein yma.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” http://www.wrexham.gov.uk/welsh/env_services/recycling_waste_w/calendar.htm “] COFIWCH EICH BINIAU[/button]

Peidiwch byth â methu casgliad biniau – cofrestrwch am ebostiau wythnosol rŵan.

Rhannu
Erthygl flaenorol community sports clubs Canolbwynt ar Bêl-droed i’r Bwrdd Gweithredol
Erthygl nesaf Gwledd Gerddorol i Wrecsam Gwledd Gerddorol i Wrecsam

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Sam Gardner
DigwyddiadauArallBusnes ac addysg

Athro ac awdur i roi sgwrs bwerus ar y system ofal

Hydref 22, 2026
Mayor attending the Taste of Nigeria Festival
Pobl a lleArall

Ymrwymiadau Maer Wrecsam – Hydref

Hydref 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English