Enw newydd Grant Gwisg Ysgol Llywodraeth Cymru yw’r Grant Datblygu Disgyblion, ac os ydych chi’n gymwys ar ei gyfer, fe gewch chi wneud cais rŵan i gael hyd at £200 i helpu gyda chostau gwisgoedd ysgol.
Telir y Grant i gydnabod yr amrywiol gostau sy’n wynebu rhieni pan fydd eu plant yn dechrau’r ysgol, ac i annog mwy o’n dysgwyr dan anfantais i fanteisio ar weithgareddau ehangach; mae’r cyllid yn eang o ran cwmpas.
Ni fydd y cyllid hwn yn cael ei gyfyngu i helpu gyda chostau gwisg ysgol yn unig, mae hefyd yn cynnwys offer ac yn galluogi dysgwyr i fod yn rhan o weithgareddau’r ysgol, fel y sgowtiaid a’r geidiaid.
PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…
Gallwch wneud cais am gyllid i helpu gyda chostau:
- Gwisg ysgol;
- Dillad chwaraeon yr ysgol;
- Gwisg ar gyfer gweithgareddau ehangach, er enghraifft chwaraeon, sgowtiaid a geidiaid;
- Offer ysgol lle mae gweithgareddau cwricwlwm newydd yn dechrau, fel dylunio a thechnoleg; ac
- Offer ar gyfer teithiau y tu allan i oriau ysgol, fel dillad sy’n dal dŵr ar gyfer dysgu yn yr awyr agored.
Pwy sy’n gymwys?
I fod yn gymwys mae’n rhaid i chi fod yn derbyn rhai budd-daliadau penodol, a bydd rhaid i’ch plentyn fod yn rhan o un o’r grwpiau canlynol ym mis Medi 2020:
- Dechrau yn y dosbarth derbyn neu flwyddyn 3 mewn ysgol gynradd yn Wrecsam
- Dechrau ym mlwyddyn 7 neu 10 mewn ysgol uwchradd yn Wrecsam
- Dechrau yn y dosbarth derbyn, blwyddyn 3, blwyddyn 7 neu flwyddyn 10 mewn ysgol arbennig, canolfan adnoddau anghenion arbennig neu uned cyfeirio disgyblion yn Wrecsam
- Mae pob plentyn sy’n derbyn gofal o oedran ysgol gorfodol sy’n derbyn gofal gennym ni (yr awdurdod lleol) hefyd yn gymwys i gael y grant.
Pa fudd-daliadau sy’n rhaid i mi fod yn eu derbyn?
Bydd angen i chi fod yn derbyn un o’r rhain:
- Cymhorthdal Incwm
- Credyd Treth Plant (gydag incwm islaw terfyn HMRC)
- Lwfans Ceisio Gwaith (yn seiliedig ar incwm)
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth (yn seiliedig ar incwm)
- Elfen Warantedig o Gredyd Pensiwn y Wladwriaeth
- Credyd Cynhwysol (ar yr amod fod gan yr aelwyd incwm net blynyddol o ddim mwy na £7,400)
- Cymorth o dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1999
Mae gennych chi tan 31 Rhagfyr i wneud cais am y grant.
Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…
APPLY FOR A PUPIL DEVELOPMENT GRANT