Mae nifer o wahanol fathau o swyddi pwysig… llawer gormod i’w rhestru 🙂
Fodd bynnag, nid oes llawer o swyddi pwysicach na sicrhau bod plant a cherddwyr yn croesi ein ffyrdd yn ddiogel ar amseroedd prysuraf y dydd.
A fyddech chi’n gallu gwneud hyn?
Mae gennym ni ddwy swydd y gallwch chi ymgeisio amdanynt. Rydym ni’n chwilio am Hebryngwyr Croesfannau Ysgol Llanw yn Llai, Wrecsam ac ym Mryn Tabor, Coedpoeth, Wrecsam. Mae’r swyddi yn rhai deg awr yr wythnos ar ddechrau a diwedd y diwrnod ysgol yn ystod y tymor ysgol yn unig.
ALLECH CHI WNEUD GWAHANIAETH I FYWYD PLENTYN SYDD MEWN GOFAL?
Er mwyn gweithio i ni, a’r Cyngor Cymuned, a’ch wyneb chi fydd pobl yn ei weld ar ddechrau a diwedd eu diwrnod ysgol, felly bydd angen personoliaeth gynnes a chyfeillgar arnoch a fydd yn rhoi gwên ar wynebau pobl wrth i chi eu helpu i groesi’r ffordd.
Ond byddwch hefyd yn ddisgybledig a bydd angen tact a sensitifrwydd arnoch wrth ymdrin â rhai sefyllfaoedd.
Byddai dealltwriaeth dda o Reolau’r Ffordd Fawr a rhywfaint o brofiad o weithio gyda phlant yn fanteisiol, ond bydd hyfforddiant perthnasol yn cael ei ddarparu.
Rydym am sicrhau ein bod yn dod o hyd i’r person cywir, sy’n ddibynadwy ac a fydd yn ein cynrychioli mewn modd cadarnhaol 🙂
Ydych chi’n addas ar gyfer y swydd?
Os felly, hoffem glywed gennych. I glywed mwy am y swyddi, ffoniwch 01978 729606.
Neu i weld y swydd-ddisgrifiadau lawn ac i wneud cais, cliciwch ar y ddolen isod.
Y dyddiad cau ar gyfer y ddwy swydd yw dydd Gwener, 17 Mai
Ddangoswch y SWYDD (LLAY) Ddangoswch y SWYDD (BRYN TABOR) Na… Dw i’n iawn ddiolch