Os oes gennych chi brofiad o lanhau neu fod awydd arnoch i roi cynnig ar rywbeth newydd, mae nifer o gyfleoedd gwaith ar gael ar hyn o bryd…
Mae Gwasanaethau Glanhau Cambrian yn gangen fasnachu y mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam yn llwyr berchen arni ac maent yn chwilio am staff newydd.
Mae’r cwmni yn cynnig gwasanaethau glanhau masnachol i swyddfeydd, ysgolion ac amryw o adeiladau eraill. Maent hefyd yn cynnig ystod eang o wasanaethau glanhau arbenigol, cynnal a gwasanaethau cysylltiedig. Maent yn cyflogi dros 200 o bobl ac mae sawl swydd wag wedi eu rhestru ar eu gwefan.
Maen nhw’n cynnig graddfa sylfaenol o £8.55 yr awr, 23 diwrnod o wyliau bob blwyddyn a gwyliau’r banc (neu lwfans cyffelyb i weithwyr a staff wrth gefn mewn ysgolion), tâl salwch a’r cynllun pensiwn llywodraeth leol.
Os oes gennych chi ddiddordeb rhowch ganiad iddyn nhw ar 01978 315643 neu ewch i’w gwefan.
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://www.cambriancleaningservices.co.uk/welsh/work-for-us/”] Gwych … Ddangoswch y SWYDD [/button] [button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/”] Na… Dw i’n iawn ddiolch [/button]