Mae’r hirymaros i ailagor lletygarwch awyr agored bron ar ben, ond mae rhai pethau sydd angen i ni wybod cyn i ni ymweld â’n gerddi cwrw, caffis neu dai coffi lleol.
- Sicrhewch eich bod yn archebu lle cyn i chi adael. Efallai y bydd ciwio mewn rhai mannau, felly disgwylir i chi gadw pellter cymdeithasol oddi wrth unrhyw un nad ydynt yn eich aelwyd
- Rhaid i pob eiddo gymryd manylion cyswllt rhag ofn y bydd timoedd Profi, Olrhain a Diogelu angen cysylltu â chi. Sicrhewch fod gennych eich manylion yn barod
- Dim ond 6 o bobl all eistedd gyda’i gilydd a ddylech wneud eich gorau glas i gadw pellter cymdeithasol wrth eistedd wrth eich bwrddNi allwch sefyll mewn ardal eistedd i yfed eich diod
- Parchwch yr holl staff. Maent wedi eich colli chi ac eisiau i chi fwynhau eich hunain ond ni fydd ymddygiad camdriniol tuag at staff yn cael ei oddef
- os byddwch chi’n defnyddio cludiant cyhoeddus neu os bydd angen tacsi arnoch er mwyn teithio yn unrhyw le yn Wrecsam neu Gymru, bydd angen i chi wisgo masg wyneb. Sicrhewch fod gennych un neu ddau wrth law rhag ofn i chi newid eich cynlluniau ar y funud olaf. Mae gan yrwyr, gan gynnwys gyrwyr tacsi, hawl i beidio â’ch cludo os na fyddwch chi’n gwisgo masg.
- Rhaid i berchnogion/landlordiaid lynu at y rheolau hefyd, felly os ydych yn bryderus am unrhyw eiddo, cysylltwch â contact-us@wrexham.gov.uk
Dywedodd Ian Jones, Pennaeth Gwasanaeth, Gwarchod y Cyhoedd: “Mae ailagor lletygarwch awyr agored yn gam mawr tuag at ddod allan o’r cyfyngiadau lefel 4, ond rhaid i ni barhau i fod yn ofalus.
“Nid yw Covid-19 wedi mynd i ffwrdd ac mae’n rhaid i ni gymryd holl ragofalon i sicrhau nad yw’n dychwelyd. Gwnewch eich rhan fel y gallwn barhau i gadw’r lefelau yn isel er mwyn gallu dychwelyd yn ôl i’r arfer. Mwynhewch, ond cadwch yn ddiogel.
Dywedodd Luke Hughes, Arolygydd Heddlu Tref Wrecsam: “Mae’n galonogol iawn gweld pa mor dda mae pobl wedi ymateb i’r cyfyngiadau o ran ailagor y sector manwerthu, gyda nifer prin iawn o ddigwyddiadau angen ein sylw. Bydd agor lletygarwch yn cyflwyno nifer o heriau i ni a busnesau lleol, felly gweithiwch gyda ni, byddwch yn amyneddgar a gyda’n gilydd fe gawn haf gwych yr ydym yn ei haeddu.”
“Rydym ni oll yn gobeithio gweld yr un lefel o ymddygiad synhwyrol wrth i ardaloedd lletygarwch awyr agored ailagor. Cadwch yn ddiogel a byddwch yn barchus. Mwynhewch y rhyddid newydd a gallwn oll edrych ymlaen at haf llwyddiannus a gwell na’r llynedd.”
Y RHEOLAU COVID DIWEDDARAF