Rydym yn falch iawn o gadarnhau bod 109 o geisiadau wedi’u derbyn ar gyfer rownd gyntaf y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn Wrecsam.
Rydym yn mynd drwy’r ceisiadau ar hyn o bryd a byddwn yn adrodd yr argymhellion terfynol i’r Bwrdd Gweithredol ym mis Mai neu Fehefin.
Dywedodd Y Cyng. Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor, “Mae darparu prosiectau a fydd yn gwneud gwahaniaeth go iawn mewn cymunedau lleol yn gam yn nes nawr ac rwy’n edrych ymlaen at gyflwyno adroddiad i’r Bwrdd Gweithredol ym mis Mai.
“Rydym yn falch iawn bod ceisiadau wedi dod o bob ardal.”
Dyrannwyd £22,684,205 i Wrecsam i ariannu cynigion sy’n cefnogi:
- Cymuned a Lle
- Cefnogi Busnesau Lleol
- Pobl a Sgiliau
Wedi methu casgliad bin? Rhowch wybod i ni ar-lein – mae’n hawdd.
RHOWCH WYBOD AM GASGLIAD BIN A FETHWYD