Mae ysgolion ar draws Wrecsam yn dal i gynllunio a pharatoi, wrth i fwy o blant ddychwelyd yn raddol i’r ystafelloedd dosbarth.
Mae disgyblion y cyfnod sylfaen (meithrin, derbyn, blwyddyn 1 a 2) wedi bod yn dychwelyd yn raddol ers 25 Chwefror (ychydig ddyddiau ar ôl rhannau eraill o Gymru ble roedd lefelau coronafeirws yn is).
Ers hynny, mae pethau wedi gwella’n sylweddol ar draws y wlad, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd mwy o blant yn gallu dychwelyd o’r 15 Mawrth ymlaen.
Nodyn i’ch atgoffa…
Dyddiadau allweddol ar gyfer mynd yn ôl
- Bydd plant ysgolion cynradd i gyd (blynyddoedd 3, 4, 5 a 6) yn ôl yn yr ysgol erbyn 15 Mawrth.
- Bydd disgyblion uwchradd blynyddoedd 11 a 13 (blynyddoedd arholiad) hefyd yn ôl ar 15 Mawrth, yn ogystal â rhai disgyblion blwyddyn 10 a 12 sy’n gwneud arholiadau.
- Bydd pob disgybl uwchradd yn ôl yn yr ysgol llawn amser o 12 Ebrill (ar ôl gwyliau’r Pasg).
- Efallai y bydd ysgolion yn gallu cynnig sesiynau galw mewn i flynyddoedd 7, 8 a 9 cyn y Pasg. Os yw hyn yn wir, bydd eich ysgol yn cysylltu gyda’r manylion.
Cam cadarnhaol ymlaen
Mae’r Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol Addysg Cyngor Wrecsam, yn dweud:
“Rydym yn falch iawn o weld plant yn dychwelyd yn raddol i ystafelloedd dosbarth yn Wrecsam.
“Mae dychweliad disgyblion y cyfnod sylfaen wedi bod yn llwyddiannus, a bydd derbyn mwy o blant yn ôl o’r 15 Mawrth yn gam cadarnhaol arall ymlaen.
“Bydd ysgolion yn cysylltu â rhieni ynglŷn â’r trefniadau, a gobeithio y bydd y disgyblion yn mwynhau mynd yn ôl i’r ystafell ddosbarth a gweld eu hathrawon a’i ffrindiau ysgol unwaith eto.”
Dilynwch y rheolau a helpwch i gadw ysgolion ar agor
Wrth i fwy o blant ddychwelyd, gofynnir i rieni helpu hefyd i gadw ysgolion ar agor drwy ddilyn y canllawiau diogelwch.
Meddai’r Cynghorydd Wynn:
“Ceisiwch osgoi rhannu ceir gydag aelwydydd eraill, gwisgwch orchudd wyneb wrth ddanfon a nôl eich plant, a cheisiwch beidio ag oedi wrth giatiau’r ysgol i siarad gyda rhieni eraill.
“Cofiwch hefyd fod ‘swigod’ ysgol yn berthnasol i’r ysgol yn unig, ac ni ddylai plant fod yn cymysgu mewn grwpiau y tu allan i eiddo’r ysgol. Mae’r cyfyngiadau presennol yng Nghymru yn nodi na ddylai mwy na phedwar o bobl o ddwy aelwyd wahanol gyfarfod i ymarfer y tu allan.
“Hoffwn ddiolch i blant, rhieni a staff ysgolion am bopeth maen nhw’n wneud i helpu i gadw ein hystafelloedd dosbarth yn ddiogel.
“Os byddwn ni i gyd yn dilyn y rheolau, gallwn gadw ysgolion ar agor a gobeithio y daw pethau yn ôl i drefn yn raddol dros y misoedd nesaf.”