Mae’n rhywbeth mae pawb wedi ei wneud. Mynd â hen fara i’w fwydo i’r adar yn y parc, yn enwedig gyda phlant ifanc.
Ond gofynnwn i chi beidio â gwneud hyn, am y rheswm syml nad yw’n dda iddyn nhw ac mewn rhai achosion, mae’n creu llawer o ddrwg.
Mae bara yn gyfystyr â bwyd sothach i adar, ac fel yn achos pobl, gall gormod ohono arwain at fagu pwysau a salwch.
Dewch i weithio ym maes gofal cymdeithasol, er mwyn eich cymuned.
Mae hefyd yn denu pla fel llygod mawr, a does neb eisiau gweld y rheiny yn ein parciau hardd.
Ar beth ddylwn i eu bwydo?
Y newyddion da yw fod nifer o ddanteithion eraill o’r tŷ a sbarion y gallwn eu rhoi iddyn nhw, fel:
- India-corn
- Gwenith, haidd neu rawn tebyg
- Ceirch (heb ei goginio; wedi ei rowlio neu beth cyflym)
- Reis (plaen gwyn neu frown, wedi ei goginio neu heb ei goginio, yn gyfan neu’n barod)
- Hadau milo
- Hadau adar (unrhyw fath neu gymysgedd)
- Grawnwin (wedi eu torri yn eu hanner neu eu chwarteru os ydynt yn fawr iawn)
- Letys – maen’ nhw’n rhyfeddol o hoff o letys
Meddai’r Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Rydym ni gyd yn hoffi bwydo’r adar ond mae bara’n niweidiol iddynt. Mae llawer o bethau eraill y gallan nhw ei fwyta a bydd gan y rhan fwyaf ohonom y pethau yma yn ein cypyrddau a’n hoergelloedd. Mae bara hefyd yn denu llygod mawr a gall fod yn anodd eu rheoli heb wneud niwed i fywyd gwyllt arall yn yr ardal.
“Helpwch ni i edrych ar ôl ein parciau hyfryd i’w cadw nhw a’u preswylwyr mewn cyflwr da.”
DOD O HYD I SWYDDI GOFALU LLEOL