Gyda llai nag wythnos i fynd tan Ddiwrnod Chwarae, Awst 4, 2021, dyma ddiweddariad i chi ar beth all eich plentyn gymryd rhan ynddo.
Fel y llynedd bydd yn wahanol ond mae llawer o bethau i gymryd rhan ynddynt i sicrhau nad yw plant yn colli allan eleni.
Mae prosiectau Gwaith Chwarae yn digwydd o amgylch y fwrdeistref sirol ac fel rhan o’r Haf o Hwyl bydd ein Tîm Chwarae yn cynnal sesiynau Sgiliau Syrcas hwyliog fel rhan o’r prosiectau. Gallwch ddarllen mwy am ble mae’r rhain isod:
Byddwn hefyd yn ymuno â’n ffrindiau yn Chwarae Cymru i guddio nifer o’u llyfrau plant “Hwyl yn y Dwnjwn” a “Hwyl yn yr Ardd” ar draws Wrecsam, bydd unrhyw un sy’n ddigon ffodus i ddod o hyd i gopi yn cael ei gadw.
I nodi Diwrnod Chwarae a’r Haf o Chwarae, bydd y Tîm Cefnogi Chwarae ac Ieuenctid yn gosod nifer o geogelciau hwyliog. Os nad ydych chi’n gyfarwydd â geoguddio, ewch i gael golwg ar yr ap er mwyn ymarfer eich sgiliau geoguddio i baratoi ar gyfer Diwrnod Chwarae.
Clybiau Plant Cymru yn cuddio nifer o godau QR…
gyda syniadau hwyliog arnynt ar draws Cymru, byddwn yn sicrhau bod y rhain ar wasgar ar draws Wrecsam.
A chofiwch y bydd ein partneriaid yn Xplore Science yn chwarae yn eu rhodfa ar y Diwrnod Chwarae ac ar y penwythnosau cyn ac ar ôl y digwyddiad.
“Mae Diwrnod Chwarae yn ddiwrnod i’w gofio”
Dywedodd y Cynghorydd John Pritchard, Aelod Arweiniol Gwasanaethau Ieuenctid a Gwrth Dlodi, “Unwaith eto mae ein Tîm Chwarae wedi gweithio’n galed i sicrhau fod Diwrnod Chwarae 2021 yn un i’w gofio i lawer o blant.
“Byddwn i gyd yn colli’r canol tref bywiog arferol ac yn arbennig y marciau sialc dros Neuadd y Dref a Sgwâr y Frenhines ond gobeithiaf y bydd rhieni a phlant yn cymryd mantais o beth sydd ar gael a dymunaf ddiwrnod llwyddiannus a phleserus i bawb.”
Mae gwneud apwyntiad i dderbyn brechlyn Covid-19 yn haws nag erioed o’r blaen.
TREFNWCH APWYNTIAD AR-LEIN