Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Parcio am ddim i ddathlu tymor y Nadolig…
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Arall > Parcio am ddim i ddathlu tymor y Nadolig…
ArallY cyngor

Parcio am ddim i ddathlu tymor y Nadolig…

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 4, 2018 5:07 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Parcio am ddim i ddathlu tymor y Nadolig...
RHANNU

Wrth i ni ffarwelio â’r haf – yr haf arbennig a gawsom ni eleni – rydym nawr yn edrych ymlaen at y Nadolig ac yn paratoi i groesawu ymwelwyr a siopwyr ychwanegol i ganol y dref.

Cynnwys
  • “Troi’r Goleuadau Nadolig Ymlaen”
  • “Dydd Sadwrn Busnesau Bach”
  • “Marchnad Fictoraidd a Siopa Gyda’r Nos”
  • “Pentref Nadolig”
  • “Wythnos siopa Nadolig”

Mae ein tîm Digwyddiadau wedi bod yn brysur iawn yn trefnu’r digwyddiadau Nadolig blynyddol, ond maent wedi ychwanegu atyniad newydd eleni – y Pentref Nadolig, ac i sicrhau y bydd pawb yn cael gwneud y mwyaf ohono, rydym yn cynnig parcio am ddim ar gyfer y rhan fwyaf o’r digwyddiadau hyn. Gallwch gael golwg arnynt isod.

Dywedodd y Cynghorydd David A. Bithell, Aelod Arweiniol yr Amgylchedd a Chludiant: “Er ein bod yn parhau i wynebu heriau ariannol, rydym yn gwybod pa mor bwysig yw cefnogi ein rhaglen digwyddiadau dros gyfnod y Nadolig. Bydd cefnogi ein digwyddiadau a chynnig parcio am ddim ar ddyddiadau allweddol yn arwain at y Nadolig yn rhoi hwb i’r economi lleol. Rydym yn gobeithio y bydd hyn yn helpu ein masnachwyr, yn enwedig rhai annibynnol, i wneud y mwyaf o’r siopwyr ychwanegol y bydd hyn yn eu denu yma.”

GALL Y DDAU GAM SYML YMA TROI CHI MEWN I ARCHARWR AILGYLCHU!

Amlinellir y dyddiadau ar gyfer parcio am ddim isod:

“Troi’r Goleuadau Nadolig Ymlaen”

Cynhelir y digwyddiad poblogaidd hwn ar Tachwedd 22 i nodi dechrau’r gweithgareddau Nadoligaidd yng Nghanol y Dref. Gellir parcio yn unrhyw un o feysydd parcio’r Cyngor yng nghanol y dref am ddim ar ôl 4pm. Trefnir y digwyddiad hwn gan Glwb Rotari Wrecsam gyda chefnogaeth ein tîm Digwyddiadau.

“Dydd Sadwrn Busnesau Bach”

Dewch draw ar 1 Rhagfyr i gefnogi busnesau lleol ar Ddydd Sadwrn Busnesau Bach, digwyddiad cenedlaethol yr ydym ni yn Wrecsam wedi cymryd rhan ynddo am sawl blwyddyn bellach. Bydd parcio am ddim ar ôl 10am.

“Marchnad Fictoraidd a Siopa Gyda’r Nos”

Cynhelir y Farchnad Fictoraidd hynod boblogaidd ar 6 Rhagfyr, a bydd parcio am ddim ar ôl 4pm. Bydd y digwyddiad hwn unwaith eto’n llenwi Sgwâr y Frenhines i Eglwys San Silyn â stondinau yn gwerthu casgliad o ddanteithion ac anrhegion Nadoligaidd ynghyd ag adloniant a charwsél traddodiadol. Dyma ddigwyddiad poblogaidd iawn sy’n denu miloedd i ganol y dref drwy gydol y dydd.

Mae Rhagfyr 6 hefyd yn nodi dechrau parcio am ddim ar gyfer siopa gyda’r nos sy’n parhau ar Rhagfyr 13 a 20 pan gaiff siopa eu hannog i aros yn agored yn hwyr.

“Pentref Nadolig”

Digwyddiad newydd i siopwyr ac ymwelwyr eleni, a rhywbeth ychwanegol i’r tymor Nadoligaidd. Rydym yn trefnu gŵyl y gaeaf 3 diwrnod. Bydd gennym wybodaeth bellach am hyn yn fuan. Cynhelir y Pentref Nadolig ar Ragfyr 14, 15 ac 16 a bydd parcio am ddim ar ôl 10am.

“Wythnos siopa Nadolig”

Byddwch yn gallu parcio am ddim ar ôl 10am yn ystod y diwrnodau olaf yn arwain at y Nadolig rhwng 17 a 24 Rhagfyr. Peidiwch â methu’r cyfle i ddod o hyd i fargeinion munud olaf, a gwnewch y mwyaf o bopeth sydd i’w cynnig yng nghanol y dref.

Mae parcio am ddim ar gael ar yr amseroedd a nodir uchod ym mhob un o feysydd parcio’r cyngor yng nghanol y dref. Mae hyn yn cynnwys Tŷ Pawb. Gweler yma am y meysydd parcio eraill lle bydd parcio am ddim ar gael

Sut i fod yn archarwr ailgylchu…mewn dau gam syml.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk/gwiriwch-a-golchwch-a-gofalwch-am-y-gweddillion-2-gyngor-ailgylchu-syml-ar-gyfer-gwell-wrecsam/”]DERBYNIWCH AWGRYMIADAU AILGYLCHU [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol kitchen food safety Ydych chi’n gweithio yn y diwydiant bwyd? Dyma’ch cyfle i ennill gwobr diogelwch bwyd…
Erthygl nesaf Mae Parc Stryt Las yn le gwych i dreulio'r pnawn... Mae Parc Stryt Las yn le gwych i dreulio’r pnawn…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

surgery to waterloo
Cadwch y Dyddiad: 24 Medi
Digwyddiadau
Medi 16, 2026
Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English