Mae parcio am ddim ym mhob maes parcio’r cyngor yng nghanol y dref tan ddiwedd Medi er ein bod yn gofyn i ymwelwyr sylwi ar y terfynau amser mewn grym i sicrhau nad yw meysydd parcio poblogaidd yn parhau’n llawn drwy’r dydd.
Meysydd parcio sydd am ddim yw:
- Ffordd y Cilgant
- Neuadd y Dref
- Y Llyfrgell
- Stryt y Farchnad
- Tŷ Pawb
Gallwch weld ein hamserau agor a sut i gyrraedd yno yma:
http://old.wrexham.gov.uk/welsh/travel/car_parks_w/town_centre_carparks.htm
Dywedodd Arweinydd y Cyngor, y Cyng Mark Pritchard, “Rydym wedi penderfynu cadw’r meysydd parcio am ddim yng nghanol y dref er mwyn cefnogi’r amrywiaeth eang o fasnachwyr annibynnol a leolir yma.”
Dywedodd y Cynghorydd Terry Evans, Aelod Arweiniol Datblygu Economaidd: “Mae gan Wrecsam fasnachwyr annibynnol ardderchog sy’n haeddu’r gefnogaeth gan bobl yn Wrecsam i’w helpu i symud ymlaen yn dilyn y cyfnod clo caeth. Maent wedi mynd i lawer o drafferth i sicrhau eu bod yn gallu agor yn ddiogel ac rydym hefyd wedi cefnogi’r gwaith hwnnw gydag arwyddion canol y dref, system unffordd ar Stryt y Banc a wardeniaid cadw pellter cymdeithasol. Manteisiwch ar y parcio am ddim a gynigir i ddangos eich cefnogaeth i’n masnachwyr os gwelwch yn dda.”
Gallwch ddarllen mwy am ganol y dref yn ailagor ar gyfer busnes yma:
Sut i gael prawf os oes gennych symptomau Coronafirws
YMGEISIWCH RŴAN