Yn gynharach eleni, cyhoeddodd Llywodraeth y DU y byddai’n creu 12 parth buddsoddi newydd, gyda’n partneriaid yn y sectorau cyhoeddus a phreifat yn awyddus i weld un o’r parthau wedi’i leoli yn Wrecsam a Sir y Fflint.
Yn dilyn datganiad hydref y canghellor y prynhawn yma rydym yn hapus iawn i gyhoeddi bod cais Wrecsam a Sir y Fflint wedi bod yn llwyddiannus.
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam: “Rwy’n hynod falch ein bod wedi sicrhau un o’r parthau buddsoddi ar gyfer Wrecsam a Sir y Fflint.
“Mae gan ein hardal botensial enfawr ac mae’n gartref i lawer o entrepreneuriaid dawnus a chwmnïau arloesol sy’n helpu i yrru’r rhanbarth yn ei flaen.
“Yn gyntaf hoffwn ddiolch i’n Haelod Seneddol lleol Sarah Atherton a Gweinidog Vaughan Gethin AS am eu holl waith caled i wneud ein cais yn un llwyddiannus
“Hoffwn hefyd gynnig diolch i Ashley Rogers yng Nghyngor Busnes Gogledd Cymru a Joanna Swash yn Moneypenny, yn ogystal â JCB, Airbus, Networld Sports, AMRC Cymru, Theatr Clwyd, Prifysgol Wrecsam a’r holl sefydliadau ac unigolion eraill a fu’n gwneud yr achos dros barth buddsoddi yng Ngogledd Ddwyrain Cymru.
“Hoffwn hefyd ddiolch i Gyngor Sir y Fflint am weithio gyda ni ar y fenter bwysig hon.
“Mae Wrecsam yn mwynhau proffil byd-eang cynyddol ar hyn o bryd, a bydd y parth buddsoddi yn helpu i ysgogi hyd yn oed mwy o ddiddordeb a buddsoddiad busnes yn yr ardal.”