Yn fuan iawn byddwn yn dechrau anfon ffurflenni atoch yn gofyn i chi wirio a diweddaru eich gwybodaeth ar y gofrestr etholwyr.
“Canfasio Blynyddol” yw’r enw swyddogol am hyn ac mae’n arfer hynod bwysig er mwyn sicrhau bod enwau’r unigolion hynny sy’n dymuno bod ar y gofrestr yn cael eu hychwanegu’n gyflym. O bosib nad yw eich enw wedi’i gynnwys oherwydd eich bod wedi symud tŷ’n ddiweddar neu eich bod newydd ddathlu eich pen-blwydd yn ddeunaw. Waeth beth yw’r rheswm, os nad yw eich enw ar y gofrestr nid oes modd i chi bleidleisio.
Cyn gynted ag y byddwch yn derbyn y ffurflen, gwiriwch y manylion os gwelwch yn dda. Yna, mae gennych ddau ddewis:
• Os nad yw eich manylion wedi newid, ewch i www.householdresponse.com/wrexham, ffoniwch 0800 197 9871 neu anfonwch y neges destun NOCHANGE gan gynnwys y ddwy ran o’ch cod diogelwch at 80212 – codir tâl safonol.
• Os ydych am ddiweddaru eich manylion neu os oes angen ychwanegu neu gael gwared ar unrhyw un, ewch i www.householdresponse.com/wrexham i wneud y newidiadau angenrheidiol. Unwaith i chi wneud hyn, dylech gofrestru unigolion newydd drwy fynd i: https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Bydd arnoch chi angen eich Rhif Yswiriant Gwladol. Os nad ydych yn gallu cofrestru ar-lein, byddwch yn derbyn ffurflen Gwahoddiad i Gofrestru i’w chwblhau. Ar ôl i chi gwblhau’r ffurflen hon byddwch wedi cofrestru i bleidleisio.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
Yn ôl gwaith ymchwil gan Y Comisiwn Etholiadol annibynnol, mae unigolion sydd yn symud tŷ neu wedi symud yn ddiweddar, yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru na’r unigolion hynny sydd wedi byw yn eu tai am gyfnod hir. Mae 94% o unigolion, sydd wedi byw yn eu tai am dros 16 o flynyddoedd, wedi cofrestru o gymharu â 30% o unigolion sydd wedi byw yn eu cartrefi am lai na blwyddyn.
Mae rhentwyr preifat hefyd yn llawer llai tebygol o fod wedi cofrestru o gymharu â pherchnogion tai. Mae 95% o berchnogion tai yng Nghymru ar y gofrestr etholwyr o gymharu â 51% o rentwyr preifat.
Dywedodd Dr Helen Paterson, Swyddog Canlyniadau:
“Mae’n bwysig iawn eich bod chi’n ymateb cyn gynted â phosib er mwyn i ni allu sicrhau bod eich manylion yn gywir ar y gofrestr etholwyr. Nid ydym yn disgwyl y bydd angen mynd i’r gorsafoedd pleidleisio am beth amser eto, ond gan fod etholiad brys eisoes wedi cael ei gynnal yn gynharach eleni, ac y gellir cyhoeddi etholiad ar unrhyw adeg, sicrhewch eich bod yn cael eich cynnwys ar y gofrestr drwy gwblhau’r ffurflen a’i dychwelyd cyn gynted â phosib.”
Mae hefyd yn ofyniad cyfreithiol i nodi’r wybodaeth y gofynnir amdani yn y Canfasio Blynyddol – hyd yn oed os nad ydych yn dymuno gwneud unrhyw newidiadau. Fe allech chi gael dirwy o hyd at £1,000 os ydych yn penderfynu peidio ag ymateb, felly agorwch y ffurflen cyn gynted â phosib a’i chwblhau.
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI