Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pecyn cyllid £2.8 miliwn wedi ei sicrhau ar gyfer ffordd sydd wedi ei difrodi yn Newbridge.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Pecyn cyllid £2.8 miliwn wedi ei sicrhau ar gyfer ffordd sydd wedi ei difrodi yn Newbridge.
Y cyngor

Pecyn cyllid £2.8 miliwn wedi ei sicrhau ar gyfer ffordd sydd wedi ei difrodi yn Newbridge.

Diweddarwyd diwethaf: Mai 11, 2022 12:12 pm
Rhannu
Darllen 3 funud
Newbridge
Cllr David Bithell and MS Ken Skates asses damage on visit to Newbridge in Wrexham
RHANNU

Mae £2.8 miliwn wedi ei ddyfarnu i Gyngor Wrecsam er mwyn gwneud gwaith atgyweirio hanfodol i’r B5605 yn Newbridge.

Cafodd y ffordd ei difrodi’n sylweddol yn ystod Storm Christoph y llynedd ac mae wedi parhau ar gau ers hynny.

Mae wedi bod yn sefyllfa heriol i gymunedau lleol gyda nifer o yrwyr yn gorfod gyrru milltiroedd yn ychwanegol.

Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan eich cyngor lleol – cofrestrwch i dderbyn bwletinau ar ffurf e-bost

Yn ogystal â darparu llwybr teithio dyddiol ar gyfer pobl leol, mae’r ffordd hefyd yn gwasanaethu fel gwyriad pan fo ffordd osgoi yr A483 ar gau.

Fodd bynnag, yn dilyn arolygon geo-dechnegol cymhleth a dadansoddiad o’r costau fe gyflwynodd y cyngor achos busnes i Lywodraeth Cymru yn ddiweddar er mwyn helpu i ariannu’r gwaith atgyweirio.
Cafwyd cadarnhad fod Gweinidogion wedi cymeradwyo’r achos busnes, gan baratoi’r ffordd i waith ddechrau yn ddiweddarach eleni.

Mae’r B5605 yn ffordd hanfodol i bobl leol

Dywedodd Ian Bancroft, y Prif Weithredwr, “Fe fydd atgyweirio’r ffordd hon yn gwneud gwahaniaeth enfawr i bobl yn Newbridge, Cefn Mawr a Rhosymedre – yn ogystal â’r cymunedau o amgylch fel Plas Madoc, Rhiwabon a’r Waun.

“Nid yw’n waith atgyweirio ffordd syml – mae’r difrod yn sylweddol ac rydym wedi gorfod cynnal llawer o asesiadau geo-dechnegol manwl a dadansoddiad o’r costau.

“Ond rydym wrth ein bodd ein bod wedi gallu sicrhau’r cyllid hwn, ac rydym yn edrych ymlaen at ailagor y darn allweddol hwn o seilwaith.”

Dywedodd Lee Waters, y Dirprwy Weinidog dros y Newid yn yr Hinsawdd sy’n gyfrifol am Drafnidiaeth, “Cafodd storm Christoph ganlyniadau dinistriol i gymunedau pan darodd Gymru y llynedd, gan darfu llawer ar ein seilwaith a’n ffyrdd.

“Drwy gydol y broses adfer hir rydym wedi bod yn gweithio’n agos iawn gyda’r holl awdurdodau lleol ac rwy’n falch ein bod wedi gallu darparu cyllid hanfodol i Gyngor Wrecsam i wneud y gwaith atgyweirio ar y ffordd hon drwy ein Cronfa Ffyrdd Cydnerth.

“Rydym yn parhau i weithio’n galed i feithrin gwydnwch yn ein rhwydweithiau teithio a’n seilwaith ehangach wrth i ni gynllunio ymlaen llaw ar gyfer newid yn yr hinsawdd.”

Derbyniwch ein prif straeon dros e-bost.

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”https://public.govdelivery.com/accounts/UKWCBC_CY/subscriber/new?topic_id=UKWCBC_CY_5″]TANYSGRIFWYCH[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol A483 Rossett to Gresford Goleuadau Traffig 4 Ffordd ar Gylchfan Lôn Price
Erthygl nesaf Freedom Byd Dŵr Wrecsam yn Codi £700 i Elusen

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Wo
Mae asesiad risg hinsawdd Gogledd Cymru yn amlygu’r camau gweithredu sydd eisoes yn mynd rhagddynt, a’r angen i feithrin mwy o gadernid
Pobl a lle Arall Datgarboneiddio Wrecsam
Hydref 23, 2026
Llun o Marchnad y Cigyddion Wrecsam
Ffocws ar gymorth busnes yn Wrecsam
Busnes ac addysg
Hydref 23, 2026
National Adoption Week 2026
Wythnos Mabwysiadu Genedlaethol 2026 – astudiaeth achos gan Wasanaeth Mabwysiadu Gogledd Cymru
Y cyngor Pobl a lle
Hydref 23, 2026
Could you be a councillor?
Allech chi fod yn gynghorydd?
Pobl a lle Digwyddiadau
Hydref 22, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam
Y cyngor

Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau gwastraff ac ailgylchu yn Wrecsam

Hydref 9, 2026
Cloudy sky
Y cyngorArall

Rhybudd tywydd – Storm Austen

Hydref 22, 2026
Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi'u trefnu
Y cyngor

Cadwch yn ddiogel yn ystod tymor tân gwyllt: Dewiswch ddigwyddiadau sydd wedi’u trefnu

Hydref 20, 2026
Apêl cotiau gaeaf i blant 2026
Y cyngor

Apêl cotiau gaeaf i blant 2026

Hydref 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English