Rydyn ni eto’n gofyn i drigolion fod yn wyliadwrus o bobl ddieithr yn dod at eich drws yn gwerthu pysgod a phethau eraill.
Mae’r pethau hyn yn aml yn cael eu gwerthu gan droseddwyr sy’n smalio bod yn fasnachwyr cyfreithlon ac maen nhw’n aml yn targedu trigolion diamddiffyn ar draws y rhanbarth gyda thactegau gwerthu lle maent yn rhoi pwysau ar bobl i brynu. Maent hyd yn oed yn bygwth ac yn codi ofn ar bobl ac yn gwerthu mathau anhysbys o bysgod wedi’u pecynnu sydd wedi’u cam-labelu, wedi mynd y tu hwnt i’r dyddiad ac yn llawer rhy ddrud, yn aml gan gynnig eu rhoi’n syth yn eich rhewgell.
Dywedodd Rebecca Pomeroy, Arweinydd Bwyd a Ffermio yng Ngwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd Cyngor Wrecsam: “Dylai trigolion ddilyn y tri cham syml hyn:
Os ydych chi’n eu hamau, cadwch nhw allan o’ch tŷ. Peidiwch â gadael i unrhyw un roi pwysau arnoch i agor y drws. Os nad ydych yn agor y drws, maent yn siŵr o adael.
Byddwch yn barod a pheidiwch â bod â chywilydd dweud “NA” i unrhyw un sy’n dod at eich drws yn ddirybudd. Mae gennych hawl dweud wrth rai nad ydych eisiau iddynt fod yno am adael.
Cysylltwch â pherthynas leol, cymydog neu ffrind os ydych chi’n credu bod rhywun yn fasnachwr twyllodrus, ffoniwch 101 neu gysylltu â Gwasanaeth Cwsmeriaid Cyngor ar Bopeth ar 03454 040505 (Cymraeg) neu 03454 040506 (Saesneg).
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau ysgol meithrin yn 2019 yw Chwefror 22
YMGEISIWCH NAWR