Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Peidiwch â cholli eich cyfle! Grantiau ar gael i helpu grwpiau cymunedol yn Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Peidiwch â cholli eich cyfle! Grantiau ar gael i helpu grwpiau cymunedol yn Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Peidiwch â cholli eich cyfle! Grantiau ar gael i helpu grwpiau cymunedol yn Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Ionawr 4, 2019 11:38 am
Rhannu
Darllen 3 funud
social inclusion grant
RHANNU

Ydych chi’n dymuno sefydlu grŵp newydd i oedolion yn eich cymuned leol?

Allech chi gynnal clwb cinio?

Ydy grŵp rydych yn ei fynychu yn ystyried ehangu?

Wel, gall y Grant Cynhwysiant Cymunedol eich helpu chi!

Mae ein Tîm Gofal Cymdeithasol i Oedolion yn helpu i ariannu llawer o wahanol brosiectau a grwpiau i oedolion ar draws Wrecsam.

O glybiau cinio, Ioga a dosbarthiadau celf i wylio adar a dawnsio llinell. Mae’r grant yn anelu i gefnogi gweithgareddau yn y gymuned i sefydlu neu ehangu grwpiau a chlybiau cinio, swper a brecwast sy’n cefnogi annibyniaeth ac iechyd a lles unigolion sy’n byw yn eu cymuned.

Gellir anfon ceisiadau drwy’r flwyddyn i’w hystyried gan Baneli Grant chwarterol.

Yn dilyn llwyddiant y Grant Cynhwysiant Cymunedol ers 2012, rydym nawr yn ehangu’r meini prawf cymhwysedd. Mae hyn yn golygu y byddwn yn croesawu ceisiadau gan gynlluniau sy’n cefnogi oedolion hŷn ac oedolion gydag anableddau dysgu a/neu gorfforol a phroblemau iechyd meddwl, yn ogystal â gofalwyr anffurfiol.

Ers 2012 mae’r Grant wedi helpu bron i gant o grwpiau yn y Fwrdeistref Sirol.

Dywedodd Mr Phil Coops, “Mae cyllid o’r Grant Cynhwysiant Cymunedol wedi’i wneud yn bosibl i grwpiau bach gael a gwneud offer a deunydd ar gael i’w defnyddio gan y gymuned gyfan mewn modd nad oedd ar gael o’r blaen. Gallwn nawr helpu’r uwch aelodau yn yr ardal gofio eu blynyddoedd blaenorol a chofio’r gorffennol fyddant yn ei fwynhau.

“Mae’r broses ar gyfer cael y grant yn eithaf syml i’w lywio ac roedd y staff bob amser ar gael i helpu os byddai yna unrhyw broblemau. Fel grŵp, maent wedi bod yn amhrisiadwy yn ein helpu i ymgymryd â’n cais llwyddiannus a phrosiect i’r gymuned.”

PLANT MEWN YSGOL? DARGANFYDDWCH MWY AM YMGEISIO AM HELP I DALU AT GOSTAU GWISG YSGOL A FWY…

Dywedodd y Cynghorydd Joan Lowe, Aelod Arweiniol Iechyd a Gofal Cymdeithasol i Oedolion: “Ar ôl ymestyn y meini prawf grant mae’r grantiau hyn yn agored i amrywiaeth llawer ehangach o grwpiau cymunedol.

“Mae hwn yn newyddion ardderchog, mae’r grantiau eisoes wedi cefnogi llawer o weithgareddau cymunedol ar draws Wrecsam a byddwn yn annog unrhyw un sy’n meddwl am sefydlu grŵp cymunedol neu sy’n dymuno datblygu grŵp presennol i gysylltu â’r tîm comisiynu.”

Gellir defnyddio’r grantiau ar gyfer sesiynau sy’n cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr lle gall pobl gyfarfod yn rheolaidd ar gyfer gweithgareddau. Gwahoddir cynigion gan unigolion neu sefydliadau ar gyfer gweithgareddau megis:

  • Cinio gyda chwmni da
  • Rhannu hobïau
  • Dysgu sgiliau newydd
  • Menter gymdeithasol / gydweithredol

Am ffurflen gais, cysylltwch â:

Commissioning@wrexham.gov.uk

Angen help gyda chostau gwisg ysgol? Gwelwch os ydych yn gymwysterol…

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://gov.wales/about/cabinet/cabinetstatements/2018/pdga/?skip=1&lang=cy “] YMGEISIWCH AM GRANT DATBLYGU DISGYBLION [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Ofgem energy price cap, gas and electricity tariffs Wrexham Mae capiau ar brisau nwy a trydan wedi cyraedd
Erthygl nesaf Hoffi cerddoriaeth? Edrychwch ar y tymor newydd o gyngherddau AM DDIM yn Tŷ Pawb... Hoffi cerddoriaeth? Edrychwch ar y tymor newydd o gyngherddau AM DDIM yn Tŷ Pawb…

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

sign for site
Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol
Y cyngor
Medi 22, 2026
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Canolfan Darganfod Gwyddoniaeth Xplore! yn cyrraedd carreg filltir bwysig fel rhan o brofiad ymwelwyr gwell
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Gresford memorial wheel
Colli 266 o fywydau yn enw glo – Trychineb Gwaith Glo Gresffordd 92 mlynedd yn ddiweddarach
Pobl a lle
Medi 22, 2026
Street lighting
Cyngor Wrecsam yn tynnu sylw at beryglon dringo goleuadau stryd
Arall
Medi 21, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Horse Riders
ArallPobl a lle

Cyngor ar gyfer gyrru ystyriol o gwmpas marchogion

Medi 21, 2026
Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Y Cyngor wedi cefnogi mwy na 220,000 o deithiau ar wasanaethau bws

Medi 21, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
Tennis o'r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref
DigwyddiadauPobl a lle

Tennis o’r radd flaenaf yn dychwelyd i Wrecsam ym mis Hydref

Medi 18, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English