Rydym ni wrthi’n diweddaru’r gofrestr etholwyr ac rydym ni’n annog pawb i wirio bod eu manylion yn gywir ac yn ddiweddar os ydynt eisiau pleidleisio yn etholiadau’r flwyddyn nesaf. Gwnewch hyn gyn gynted â phosibl er mwyn osgoi cael nodyn atgoffa.
Bellach, mae mwy o bobl yn gymwys i bleidleisio gan fod pobl 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys 16 oed neu hŷn yn cael pleidleisio yn etholiadau’r Senedd.
Efallai bod eich symptomau ddim yn ddifrifol ond dylech dal cael prawf am Coronafeirws
Sicrhewch eich bod hi’n ychwanegu unrhyw un dros 14 oed yn eich aelwyd i sicrhau nad ydynt yn methu’r cyfle i bleidleisio.
Bydd angen i chi ymateb os ydych wedi symud tŷ ers i chi gofrestru ddiwethaf – rhywbeth y mae pobl yn ei anghofio’n aml.
Peidiwch â methu’ch cyfle i gael dweud eich dweud trwy gofrestru i bleidleisio. Os nad ydych chi ar y gofrestr etholwyr ni fydd modd i chi bleidleisio.
Beth sydd angen i mi ei wneud?
- Os ydi pawb sy’n gymwys i bleidleisio yn eich cyfeiriad eisoes wedi cofrestru, does dim angen i chi wneud dim byd.
- Os yw’r wybodaeth yn anghywir neu os oes pobl sy’n gymwys i bleidleisio sydd heb gael eu cynnwys, bydd angen i chi ymateb. Ewch i www.householdresponse.com/wrexham i wneud y newidiadau angenrheidiol.
- Unwaith rydych wedi gwneud hyn, dylai pobl newydd gofrestru’n unigol ar https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.
YMGEISIWCH RŴAN