Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pêl-droed -Am Byth! – Arddangosfa newydd i’w hagor yn Amgueddfa Wrecsam
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pêl-droed -Am Byth! – Arddangosfa newydd i’w hagor yn Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lle

Pêl-droed -Am Byth! – Arddangosfa newydd i’w hagor yn Amgueddfa Wrecsam

Diweddarwyd diwethaf: Gorffennaf 10, 2019 12:27 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Pêl-droed -Am Byth! - Arddangosfa newydd i'w hagor yn Amgueddfa Wrecsam
RHANNU

Mae arddangosfa newydd sbon sy’n dathlu treftadaeth bêl-droed Cymru yn agor yn Wrecsam yr wythnos hon!

Cynnwys
  • Casgliad unigryw yn cael ei arddangos
  • Siawns i fynd yn wallgof am bêl-droed!
  • Blas o’r hyn sydd i ddod

Pêl-droed am byth! Cyflwyno Stori Pêl-droed yng Nghymru a Chymru mewn Pêl-droed yw’r arddangosfa ddiweddaraf wedi’i ysbrydoli gan Gasgliad Pêl-droed Cymru i’w agor yn Amgueddfa ac Archifau Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Mae’r arddangosfa yn tynnu sylw at hanes cyffrous pêl-droed Cymru trwy ei gysylltiadau â’r Rhyfel Byd Cyntaf, Trychineb Pwll Glo Aberfan, heriau teithio tramor, Gemau Olympaidd Paris 1924, cychwyn ffeministiaeth, anabledd a chwaraeon, pwysigrwydd un stryd arbennig yn Abertawe a man cychwyn y gêm yn nhref Wrecsam a phentref Rhiwabon.

CYMRWCH RAN YN YR YMGYNGHORIAD AR GYNLLUN Y CYNGOR 20-22

Casgliad unigryw yn cael ei arddangos

Mae’r arddangosfa yn cynnwys gwrthrychau a deunyddiau archifol o Gasgliad Pêl-droed Cymru a ddewiswyd gan ddau guradur gwadd, y ddau yn gefnogwyr selog o’r gêm. Mae’r casgliad yn ymddangos mewn cyfres o arddangosfeydd â themâu: Gemau Rhyngwladol Cartref, Sêr a Chymeriadau, Ewrop a’r Byd, Clwb a Gwlad a holl agweddau o’r Gêm gan gynnwys:

  • Crys Rhif 9 Trevor Ford a wisgodd yn erbyn yr Alban, 1955
  • Crys Len Davies o daith tramor cyntaf Cymru, 1929
  • Crys Aaron Ramsey o’r gêm yn erbyn Estonia, 2009
  • Rhaglen Gêm o ‘frwydr Wrecsam’ yn erbyn Awstria, 1955
  • Rhwymyn braich capten gan Ryan Giggs, ei gêm ryngwladol olaf
  • Esgid ‘aur’ a ddyfarnwyd i John Charles
  • A’r fedal a ddyfarnwyd i Moses Russell am fod yn rhan o’r tîm buddugol wnaeth guro Lloegr, yr Alban ac Iwerddon ym Mhencampwriaeth y Cenhedloedd Cartref 1923-24.

Siawns i fynd yn wallgof am bêl-droed!

Yn ogystal â’r arddangosfeydd hyn mae cyfle i ymwelwyr

  • Fwynhau ffilm yn yr archif gemau pêl-droed hanesyddol diolch i British Pathé Ltd.
  • Dewis eu hoff dîm i gynrychioli ein gwlad
  • Gosod gôl geidwaid Cymru yn nhrefn eu mawredd
  • Dadlau safleoedd ergydwyr gorau Cymru erioed
  • Rhoi cynnig ar wisgo cit pêl-droed o’r 19eg ganrif
  • A gwneud caneuon pêl-droed eu hunain i fyny.

Mae Pêl-droed am byth! i’w weld o ddydd Gwener, 12 Gorffennaf 2019 tan ddydd Sadwrn, 11 Ionawr 2020.

Blas o’r hyn sydd i ddod

Dywedodd y Cyng. Hugh Jones, Dirprwy Arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam: “Yn sicr mae Wrecsam yn gartref ysbrydol i bêl-droed Cymru ac mae Amgueddfa Wrecsam wedi gofalu am Gasgliad Pêl-droed Cymru ers ei sefydlu yn 2000 gyda chefnogaeth Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol.

“Mae’r cyhoeddiad diweddar o fwriad Llywodraeth Cymru i sefydlu Amgueddfa Bêl-droed Cymru yn Amgueddfa Wrecsam yn un sylweddol i’r ardal, y dref a’r amgueddfa. Efallai bod yr arddangosfa hon yn rhoi blas o’r hyn sydd i ddod.”

I gael rhagor o wybodaeth:
Rhif ffôn 01978 297 460 neu e-bost museum@wrexham.gov.uk
Dilynwch Amgueddfa Wrecsam ar facebook a twitter

I gymryd rhan yn yr ymgynghoriad ar Gynllun y Cyngor, cliciwch yma

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=”http://www.yourvoicewrexham.net/project/417?language=cy”]DWI ISIO MYNEGI FY MARN![/button]
[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” link=”https://newyddion.wrecsam.gov.uk”]DOES DIM OTS GEN [/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Click and Collect Rhowch eich barn am ddyfodol marchnadoedd canol y dref
Erthygl nesaf Mae Sioe Gerddoriaeth Newydd Cymru yn Cyhoeddi Rhifyn 10fed Pen-blwydd. Mae Sioe Gerddoriaeth Newydd Cymru yn Cyhoeddi Rhifyn 10fed Pen-blwydd.

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026
Mae hi'n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a'r brifysgol)
Mae hi’n Wythnos Ailgylchu 2026 – cofiwch ailgylchu yn y gwaith (neu yn yr ysgol, y coleg a’r brifysgol)
Datgarboneiddio Wrecsam Fideo
Medi 15, 2026
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lle Y cyngor
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm
DigwyddiadauPobl a lle

Wrecsam v Southampton – tynnwch y straen allan o barcio ar ddiwrnod y gêm

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
Mayor with Nightingale House Hospice team
ArallFideoPobl a lle

Y Maer yn achub ar y cyfle ac yn mynd amdani gyda Monopoly newydd Wrecsam

Medi 9, 2026
Guildhall ceremony room
ArallPobl a lleY cyngor

Ystafell Seremonïau Neuadd y Dref ar ei newydd wedd

Medi 9, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English