Mae’r Dr Helen Paterson, Prif Weithredwr Cyngor Wrecsam, wedi cyhoeddi ei bod wedi derbyn cynnig i fod yn Brif Weithredwr gyda Chyngor Walsall.
Ymunodd Helen â Chyngor Wrecsam o Sunderland yn 2011 ac wedi bod wrth lyw’r Cyngor yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn ariannol mewn llywodraeth leol. Mae ei blaenoriaethau o ddatblygu cymunedau cryf trwy ail-lunio perthynas y Cyngor gyda’r cyhoedd a’r economi leol wrth galon proses gynllunio’r cyngor ac wedi eu sicrhau yng Nghynllun y Cyngor.
Mae Helen wedi bod yn ddylanwadol wrth lunio arferion arloesol yng Nghymru a Lloegr yn enwedig o fewn trefniadau llywodraethu; adfywio; modelau darparu amgen; gofal cymdeithasol; iechyd ac addysg.
GALLWCH GAEL NEWYDDION A GWYBODAETH AR UNWAITH GAN GYNGOR WRECSAM GYDA FY NIWEDDARIADAU.
“Yn anrhydedd a braint i wasanaethu pobl Wrecsam”
Wrth siarad am gael y cynnig o wneud y brif swydd ar Gyngor Walsall, dywedodd Helen:
“Er fy mod yn amlwg wrth fy modd i gael y cynnig i wneud y swydd hon, byddaf serch hynny yn drist iawn i adael Wrecsam sydd wedi bod yn gartref a man gwaith i mi am y 6 mlynedd ddiwethaf. Mae wedi bod yn anrhydedd ac yn fraint i wasanaethu pobl Wrecsam yn ystod y cyfnod hwn. Mae disgwyl i fy mhenodiad newydd ddechrau yn yr hydref ac mae digon i’w wneud tan hynny. Byddaf yn parhau i wasanaethu Wrecsam fel rwyf bob amser wedi gwneud tan fy niwrnod olaf gyda’r awdurdod hwn.”
“Gweithio gydag ymroddiad diflino i Wrecsam a’i thrigolion”
Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd Cyngor Wrecsam:
“Rwy’n arbennig o falch dros Helen ac yn dymuno’r gorau iddi yn ei swydd yn Walsall yn y dyfodol. Mae Helen bob amser wedi gweithio gydag ymrwymiad diflino i Wrecsam a’i thrigolion yn ystod ei chyfnod gyda ni. Mae ei gwaith wedi ein tywys drwy gyfnodau heriol iawn yn ariannol ac rydym wedi bod yn ffodus iawn i gael unigolyn mor fedrus a thalentog yn ben ar ein hawdurdod. Rwy’n gwybod y bydd Helen yn parhau i weithio gyda mi i sicrhau trosglwyddiad esmwyth ar ei diwrnod gadael disgwyliedig yn yr hydref.”
Derbyniwch newyddion a gwybodaeth gan Gyngor Wrecsam yn syth bin drwy Fy Niweddariadau.
COFRESTRWCH FI