Adeg y Nadolig, rydym yn dueddol o brynu neu dderbyn eitemau na fyddem efallai’n eu gweld weddill y flwyddyn.
Felly, er ein bod wedi arfer ailgylchu’r eitemau rydym yn delio â nhw gydol y flwyddyn, gallai’r eitemau mwy Nadoligaidd hynny wneud i ni feddwl “fedra i ailgylchu hwn?” neu efallai “pa rannau o hwn fedra i eu hailgylchu?”
Gan ystyried hyn, roeddem yn credu y byddai’n syniad da i sôn gyda chi am rai o’r pethau Nadoligaidd y gallwch chi eu hailgylchu.
Tybiau mawr o siocled
Bydd nifer ohonom yn cael un o’r rhain ar ryw adeg dros gyfnod y Nadolig. Wel, maen nhw’n ddefnyddiol pan mae ffrindiau a theulu’n picio heibio a dyma’r anrheg mae nifer ohonom yn troi ato fel anrheg i’r bobl hynny sy’n anodd prynu ar eu cyfer.
Felly cofiwch, da chi, bod modd ailgylchu’r cynwysyddion hyn – Quality Street, Celebrations, Roses, Heroes ac ati – gyda’ch holl blastigion eraill. Mae hefyd modd ailgylchu’r rhai alwminiwm traddodiadol 🙂
Calendrau Adfent
Os yw eich teulu’n hoff o galendrau Adfent, mae’n bwysig i wybod bod un neu ddau o bethau y gallwch eu hailgylchu oddi arnynt.
Gallwch ailgylchu unrhyw becyn cardbord gyda’ch papur cyn belled nad yw’n cynnwys gliter neu ychwanegion plastig.
EISIAU MWY O AWGRYMIADAU A GWYBODAETH? COFRESTRWCH I DDERBYN EIN CYLCHLYTHYRAU AILGYLCHU AR E-BOST…
Yn anffodus, mae’r rhan fwyaf o galendrau Adfent yn cynnwys daliwr plastig y tu mewn, ond dylech allu ailgylchu hwn gyda’ch plastigion eraill.
Ffordd wych o osgoi plastig yn llwyr yw bod yn greadigol a cheisio creu eich calendr Adfent eich hun.
Mae sawl gwahanol ffordd o greu eich calendr Adfent eich hun. Os ewch chi ar Google yn sydyn, fe ddowch o hyd i sawl gwahanol ffordd o fynd ati, o ddulliau syml i rai ychydig yn fwy heriol.
Os ydych chi’n rhoi cynnig arni, cadwch at ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu wrth greu eich calendr. Dim ond cardbord, siswrn, glud a phinnau lliw (nid rhai gliter) sydd eu hangen ar gyfer amryw o’r canllawiau ac maen nhw’n dal i edrych yn ffantastig ac mae’n bosibl eu hailgylchu yn gyfan-gwbl.
Os nad oes amser gennych i greu un drosoch eich hun, gallech chi hyd yn oed ystyried prynu calendr Adfent y gellir eu hail-ddefnyddio. Mae nifer o gwmnïau rŵan yn gwerthu calendrau wedi’u creu o bren a ffabrig, sy’n wych i’w defnyddio dro ar ôl tro 🙂
Ffoil glân
Mae’r rhan fwyaf ohonoch mae’n debyg yn ymwybodol bellach y gallwch ailgylchu ffoil glân yn eich bocs gwyrdd, bocs ar olwynion canol, ond mae’n debyg y byddwch yn defnyddio mwy o ffoil na’r arfer dros y Nadolig.
Er enghraifft, gallwch ailgylchu dalwyr ffoil o unrhyw fins peis rydych yn eu cael, fel y gallwch gyda’r ffoil rydych yn ei gael gydag unrhyw ddarnau arian siocled rydych yn eu cael.
Er bod y ddau beth yma’n ymddangos yn bethau cymharol fach, bydd nifer ohonom yn eu cael dros y Nadolig felly bydd yn gwneud gwahaniaeth os bydd pawb yn eu hailgylchu.
Cardiau Nadolig ac amlenni
Fe allwch chi ailgylchu cardiau Nadolig (heb gliter ac ar ôl tynnu unrhyw rubanau) yn ogystal ag amlenni gyda gweddill eich papur. Fe allwch chi ailgylchu bagiau anrhegion cerdyn a phapur fel yma hefyd – ond cofiwch dynnu unrhyw handlenni nad oes modd eu hailgylchu.
Mae hefyd modd ailgylchu llawer o bapur lapio… edrychwch ar ein canllaw i weld pa rai.
Coed Nadolig
Gallwch dorri coed Nadolig go iawn (nid rhai artiffisial) yn ddarnau bach a’u rhoi yn eich biniau gwastraff gardd.
Goleuadau Nadolig diffygiol
Gallwch fynd â hen oleuadau Nadolig neu rai diffygiol i unrhyw un o’n canolfannau ailgylchu gwastraff y cartref i’w hailgylchu. Bydd un o’r staff yno yn gallu eich rhoi chi ar ben ffordd.
Ddylech chi fyth dan unrhyw amgylchiadau geisio gwaredu eitemau trydanol yn eich gwastraff cyffredinol!
Anrhegion nad ydych yn eu heisiau
Os ydych yn cael anrheg na fyddwch yn ei ddefnyddio lawer, gallech chi ystyried ei roi fel anrheg i rywun arall.
Mae hyn yn golygu rhoi anrhegion diangen i eraill ac os nad oes gennych unrhyw un i’w rhoi iddynt, rydym yn siŵr y byddai’r siop ail-ddefnyddio yn ddiolchgar iawn os byddech chi’n dymuno rhoi’r anrhegion iddyn nhw.
Gallwch chi ddod o hyd i’r siop ail-ddefnyddio yn eich canolfan ailgylchu ar Lôn y Bryn… edrychwch ar y blog diweddar hwn i wybod mwy am y siop ailddefnyddio.
Peidiwch ag anghofio’r amlwg
Dros gyfnod y Nadolig, mae’n debyg y bydd gennych fwy o’ch eitemau bob dydd hefyd, ac mae’n bwysig eich bod yn ailgylchu pob un o’ch tuniau, caniau, poteli a jariau ac ati ychwanegol.
Ffaith: A wyddoch chi, os yw eich blychau ailgylchu yn llawn, gallwch adael unrhyw beth sydd angen ei ailgylchu mewn bagiau neges (nid sachau du) neu gynwysyddion unigol i’w casglu. Ond gwnewch yn siŵr eich bod chi’n gwahanu deunydd gwahanol, fel yr ydych yn ei wneud fel arfer e.e. papurau mewn un, plastig / tuniau mewn un eraill, a’u gosod nhw wrth ymyl eich blychau ailgylchu ar ddiwrnod eich casgliad. Mi wnawn ni adael y bagiau neges/ cynwysyddion i chi eu defnyddio eto.
Gyda theulu a ffrindiau’n picio heibio, mae bron yn sicr y bydd gennych fwy o wastraff bwyd hefyd, felly mae’n werth atgoffa eich hun beth fedrwch chi eu hailgylchu. Mae’r blog hwn yn dweud wrthych be fedrwch chi ei ailgylchu fel gwastraff bwyd.
Fel bob amser, diolch i chi am ailgylchu 🙂
Eisiau mwy o awgrymiadau a gwybodaeth? Cofrestrwch i dderbyn ein cylchlythyrau ailgylchu ar e-bost…
COFRESTRU