Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pethau y gallwch ei wneud yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni i helpu Cymru gyrraedd y brig
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Pobl a lle > Pethau y gallwch ei wneud yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni i helpu Cymru gyrraedd y brig
Pobl a lleY cyngor

Pethau y gallwch ei wneud yn ystod Wythnos Ailgylchu eleni i helpu Cymru gyrraedd y brig

Diweddarwyd diwethaf: Hydref 20, 2022 9:23 am
Rhannu
Darllen 7 funud
Wythnos Ailgylchu 2022
RHANNU

Erthyl gwadd – Cymru yn Ailgylchu

Cynnwys
  • Dewch inni oll chwarae ein rhan a chael Cymru i rif 1
    • Poteli persawr a phersawr eillio gwag: Ailgylchu o gartref (ond gwiriwch yn lleol)
    • Gwydrau yfed: Nid gartref
    • Pecynnau ffoil bwyd a diodydd: Nid gartref
    • Ffoil: Ailgylchu o gartref
    • Teganau plastig: Nid gartref
    • Tiwbiau past dannedd: Nid gartref
    • Erosolau: Ailgylchu gartref (ond gwiriwch yn lleol)
    • Gwydr coginio fel Pyrex: Nid gartref

Fe ŵyr pawb fod pobl Cymru yn ailgylchwyr gwych. Mae nifer anhygoel – 95% ohonom – yn ailgylchu’n rheolaidd nawr, wedi codi o 92% y llynedd. Ni yw trydedd genedl orau’r byd, ac yn anelu i gyrraedd rhif 1. Ond mae llawer mwy y gallwn ei wneud i helpu Cymru gyrraedd y brig.

Ar hyn o bryd, y rhwystr mwyaf i ailgylchu yng Nghymru yw dryswch ynghylch beth y gellir – ac na ellir – ei ailgylchu.

Mae ymchwil newydd yn dangos bod 72% ohonom, er gwaethaf ein holl ymdrechion, yn dal i roi o leiaf un eitem yn y bin sbwriel pan ellid ei ailgylchu. Ac mae 83% ohonom yn taflu pethau i’r ailgylchu na ellir eu hailgylchu o gartref mewn gwirionedd. Mae hyn yn halogi’r ailgylchu a gaiff ei gasglu, sy’n lleihau ei ansawdd a’i werth.

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

Dewch inni oll chwarae ein rhan a chael Cymru i rif 1

Poteli persawr a phersawr eillio gwag: Ailgylchu o gartref (ond gwiriwch yn lleol)

Mae’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn casglu poteli persawr a phersawr eillio gwag fel rhan o’u gwasanaeth lleol, ond dim ond 47% o bobl sy’n eu hailgylchu yng Nghymru.

Mae gwneud eitemau gwydr o ddeunyddiau eilgylch yn defnyddio tua 95% yn llai o ynni o’i gymharu â gwneud potel wydr newydd sbon. Chwaraewch eich rhan drwy ailgylchu poteli persawr a phersawr eillio gwag.

Gwydrau yfed: Nid gartref

Ni ellir ailgylchu gwydrau yfed gan ddefnyddio’r un broses a ddefnyddir ar gyfer poteli a jariau gwydr cyffredin, sy’n golygu na ellir eu casglu i’w hailgylchu gyda’i gilydd. Gwnewch yn siŵr fod gwydr wedi torri yn cael ei lapio’n ddiogel cyn ei roi yn eich bag neu fin ar gyfer gwastraff na ellir ei ailgylchu.

Os oes gennych chi unrhyw wydrau yfed nad ydych mo’u heisiau mwyach ond eu bod mewn cyflwr da, ewch â nhw i siop elusen leol.

Pecynnau ffoil bwyd a diodydd: Nid gartref

Ni ellir ailgylchu pecynnau ffoil bwyd a diodydd fel rhai bwyd babanod, reis microdon a bwyd anifeiliaid anwes gartref ar hyn o bryd. Pam? Cânt eu gwneud o gymysgedd o wahanol ddeunyddiau, a all gynnwys metel alwminiwm, ffibrau a phlastigion, sy’n eu gwneud yn anodd eu hailgylchu ar hyn o bryd.

Gellir ailgylchu rhai o’r eitemau hyn yn lleoliadau blaen siop rhai archfarchnadoedd.

Ffoil: Ailgylchu o gartref

Gellir ailgylchu unrhyw ffoil glân ac mae 69% o ddinasyddion Cymru’n ei ailgylchu eisoes. Gwagiwch, rinsiwch a chrychwch eitemau ffoil cyn eu rhoi yn eich ailgylchu, gan y bydd hynny’n helpu iddyn nhw fynd drwy’r broses ddidoli heb fynd ar goll.

Teganau plastig: Nid gartref

Mae teganau plastig wedi’u gwneud o ddeunydd a elwir yn ‘blastig caled’, ac ni ellir ei ailgylchu yn yr un mod â deunydd pacio plastig fel poteli diodydd neu dybiau marjarîn.

Os oes gennych chi deganau plastig sydd â bywyd ar ôl ynddynt o hyd, ewch â nhw i siop elusen neu rhowch nhw i grŵp cymunedol lleol. Os yw eich teganau a gemau plastig y tu hwnt i’w trwsio, efallai y gellir ailgylchu rhai o’r darnau, fel y batris a phecynnau batris, os byddwch wedi’u datgymalu.

Gellir mynd â theganau neu gemau plastig wedi malu i’ch canolfan ailgylchu hefyd, a’u hailgylchu gyda ‘phlastigion caled’.

Tiwbiau past dannedd: Nid gartref

Mae tiwbiau past dannedd yn aml wedi’u gwneud o wahanol fathau o blastig, ynghyd â haenen fetel, sy’n golygu ei bod yn anodd eu hailgylchu ar hyn o bryd. Er bod rhai tiwbiau’n dweud y gellir eu hailgylchu, mae’n anodd i griwiau adnabod y rhai y gellir eu hailgylchu a’r rhai na ellir eu hailgylchu wrth iddyn nhw gasglu eich ailgylchu, felly mae’n well i ansawdd cyffredinol eich ailgylchu os nad ydych chi’n ailgylchu eich tiwbiau past dannedd gartref.

Mae’n bosibl y cânt eu derbyn yn lleoliadau blaen siop rhai archfarchnadoedd.

Erosolau: Ailgylchu gartref (ond gwiriwch yn lleol)

Mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n derbyn caniau erosol gwag fel diaroglydd, siampŵ sych a chyflyrydd aer fel rhan o’u gwasanaeth casglu. Gellir ailgylchu metel yn ddiddiwedd, hynny yw, gellir ei ailgylchu dro ar ôl tro heb i’w ansawdd ddirywio o gwbl, felly sicrhewch eich bod yn helpu i arbed ein hadnoddau gwerthfawr drwy ailgylchu eich holl ganiau erosol gwag.

Gwydr coginio fel Pyrex: Nid gartref

Er mai math o wydr yw llestri coginio Pyrex, mae’r gwydr hwn wedi cael ei drin yn arbennig yn ystod y broses o’i gynhyrchu i wrthsefyll tymereddau uchel, sy’n golygu na ellir ei ailgylchu o gartref.

Os bydd angen ichi gael gwared â gwydr coginio wedi torri o gartref, lapiwch ef yn ddiogel mewn hen bapur newydd neu bapur cegin, neu ei fagio’n ddwbl cyn ei roi yn eich bin neu fag gwastraff na ellir ei ailgylchu. Fel arall, gellir ei ailgylchu gyda ‘rwbel’ yn y rhan fwyaf o ganolfannau ailgylchu lleol.

Os nad yw eich gwydr coginio wedi torri – a’ch bod yn cael gwared arno am nad oes ei angen neu ei eisiau arnoch mwyach – beth am fynd ag ef i siop elusen leol i rywun arall gael ei ddefnyddio?

Cymrwch ran yn ein harolwg newid hinsawdd

[button color=”” size=”large” type=”square_outlined” target=”new” link=” https://www.yourvoicewrexham.com/arolwg/1663 “] Cymerwch ran yn ein harolwg
[/button]

Rhannu
Erthygl flaenorol Over 60s Cynnig 60 oed â hyn: Cynllun Hamdden Egnïol
Erthygl nesaf Silent disco Lleoedd Diogel yn cyflwyno Disgo Distaw ac Arddangosfa Dân Gwyllt Dawel

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Guildhall
Cyngor Wrecsam yn ymateb i’r sylw diweddar yn y cyfryngau ar Lwyneinion a thomen wastraff Monsanto gerllaw
Arall
Awst 14, 2026
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Cyfle i ddweud eich dweud ar ddyfodol gwasanaethau bysiau yn Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Y cyngor
Awst 14, 2026
Myfyrwyr yn Ysgol Maelor, Llannerch Banna, yn dathlu eu canlyniadau Safon Uwch heddiw! (13.8.26)
Diwrnod canlyniadau Safon Uwch 2026 – Llongyfarchiadau i’n holl fyfyrwyr
Arall Busnes ac addysg Pobl a lle
Awst 13, 2026
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Teithio diwrnod gêm newydd i gefnogwyr Clwb Pêl-droed Wrecsam
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Awst 12, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Datganiad i'r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell - Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027
Y cyngor

Datganiad i’r wasg gan y Cynghorydd David A Bithell – Rhaglen Gwaith Cyfalaf 2026/2027

Awst 12, 2026
Britain in Bloom Wrecsam 2026
Pobl a lle

Wrecsam yn croesawu’r beirniaid ar gyfer Britain in Bloom eleni

Awst 11, 2026
Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau
Y cyngor

Nid oes llawer o amser ar ôl i ddweud eich dweud ar ein gwasanaethau

Awst 11, 2026
Wrecsam Cyffredinol Wrexham General
Datgarboneiddio WrecsamPobl a lle

Uwchraddio’r rheilffyrdd ar gyfer Gogledd Cymru ac ardal y ffin

Awst 10, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English