Ydych chi eisiau helpu’r amgylchedd, bod yn actif yn yr awyr agored a chwrdd ag eraill yn y gymuned wrth wneud hyn? Byddwch yn wirfoddolwr am y diwrnod a dewch draws i Ddiwrnod Plannu Coed ym Marchwiail ar ddydd Sadwrn, 16 Tachwedd 2024.
Cefndir
Cefnogir y digwyddiad gan Gronfa Coed mewn Argyfwng Coed Cadw.
Bydd yn helpu tuag at ein nodau fel rhan o Addewid Coetir Wrecsam (sy’n amlinellu ein hymrwymiad i gynyddu gorchudd canopi coed, a gwarchod y coetir presennol ar draws y fwrdeistref sirol).
Mae Marchwiail wedi’i nodi fel ardal â gorchudd canopi isel. Mae’r gorchudd canopi presennol yn 14.3% gyda’r targed cyffredinol ar gyfer Wrecsam yn 20%.
Bydd cynllun plannu coed yn cael ei gynnal ar dir y tu ôl i Gilgant Marcella.
Ar y diwrnod
Cynhelir y digwyddiad ar ddydd Sadwrn 16 Tachwedd, o 10am – 4pm (mae croeso i chi aros cyhyd ag y dymunwch).
Os ydych yn aros dros amser cinio dewch â’ch pecyn bwyd a diod eich hunain. Darperir diodydd poeth a bisgedi. Hefyd, nid oes toiledau ar y safle, felly cynlluniwch ymlaen llaw (toiledau cyhoeddus agosaf yn nhafarn The Red Lion).
Rhaid i blant ddod gydag oedolyn, mae plannu coed yn addas ar gyfer yr holl deulu, ond bydd plant ifanc angen cymorth oedolyn wrth balu tyllau.
Darperir yr holl offer ac mae menyg ar gael i’w defnyddio. Gwisgwch ddillad cynnes sy’n addas i’r tywydd ac esgidiau glaw neu esgidiau cryfion!
Byddwn ar y safle rhwng 10-4pm ond mae croeso i chi aros cyhyd ag y dymunwch.
Man cyfarfod / cyfarwyddiadau
Byddwn yn cyfarfod yn y maes parcio oddi ar The Ridgeway, LL13 0SB. Y lleoliad what3words yw
balanced.testy.prevents (mae what3words yn darparu ‘cod’ yr union leoliad lle nad yw cyfeiriadau stryd yn ddigon cywir).
Teithio o Ystâd Ddiwydiannol Wrecsam:
- Cymerwch yr ail allanfa ar y gylchfan i Ffordd Bangor A525.
- Wrth i chi ddod i mewn i Farchwiail, trowch i’r dde ar y stad dai, enw stryd: The Ridgeway.
- Wrth i’r stryd lwybro i’r chwith, trowch i lawr y lôn gul ar yr ochr dde, i’r maes parcio.
Teithio o Hightown:
- Ewch ar hyd yr A525 Ffordd Bangor gan ddod i mewn i bentref Marchwiail.
- Trowch i’r dde i’r Ridgeway.
- Wrth i’r stryd lwybro i’r chwith, trowch i lawr y lôn gul ar yr ochr dde, i’r maes parcio.
Rhowch wybod i ni os oes gennych ddiddordeb
Os hoffech gysylltu i wirfoddoli neu wneud sylw am y cynllun plannu coed cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk.
Eisiau helpu gyda digwyddiadau yn y dyfodol?
Rydym yn galw ar fusnesau, unigolion, grwpiau cymunedol ac ysgolion a hoffai helpu i blannu coed gyda Chyngor Wrecsam, i gysylltu â ni, gan y bydd mwy o gyfleoedd trwy gydol y gaeaf i bobl gymryd rhan.
Cysylltwch â woodlandpledge@wrexham.gov.uk i gael mwy o wybodaeth.
Efallai yr hoffech hefyd ddarllen: Gwirfoddolwch i gynorthwyo ceidwad yn Nyfroedd Alun!