Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Pleidleiswyr yn cael eu hannog i gofrestru mewn pryd i gael dweud eu dweud ar 6 Mai.
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Y cyngor > Pleidleiswyr yn cael eu hannog i gofrestru mewn pryd i gael dweud eu dweud ar 6 Mai.
Y cyngor

Pleidleiswyr yn cael eu hannog i gofrestru mewn pryd i gael dweud eu dweud ar 6 Mai.

Diweddarwyd diwethaf: Mawrth 15, 2021 12:15 pm
Rhannu
Darllen 4 funud
Oes 5
RHANNU

Ddydd Iau 6 Mai bydd preswylwyr yn cael pleidleisio am y rheiny a fydd yn eu cynrychioli yn y Senedd ac am Gomisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

Er mwyn pleidleisio yn yr etholiadau pwysig hyn, mae’n rhaid i breswylwyr roi eu henwau ar y gofrestr etholiadol. Rydym rŵan yn annog preswylwyr sydd heb gofrestru yn eu cyfeiriad presennol i wneud yn siŵr eu bod yn cofrestru mewn pryd.

Y diweddaraf am y rhaglen frechu rhag Covid-19 ar draws Wrecsam a Gogledd Cymru

Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad yw dydd Llun, 19 Ebrill. Mae’n cymryd pum munud i wneud cais ar-lein ar gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Eleni bydd preswylwyr yn pleidleisio mewn dau etholiad gwahanol a byddant yn dewis:

• 60 o Aelodau’r Senedd (AS). Mae gan y Senedd rymoedd i wneud deddfau i Gymru mewn amryw o feysydd gan gynnwys iechyd, yr economi, addysg, tai, cludiant ac amrywio rhai trethi. Mae 40 o AS yn cynrychioli etholaethau Cymru ac 20 AS yn cynrychioli pum rhanbarth: Gogledd Cymru, Canol a Gorllewin Cymru, De-orllewin Cymru, De-ddwyrain Cymru a Chanolbarth De Cymru.
• Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd sy’n arolygu’ch heddlu lleol ac yn sicrhau eu bod yn rhoi blaenoriaeth i’r pethau sy’n bwysig i chi.

Meddai Ian Bancroft, Swyddog Canlyniadau Wrecsam a De Clwyd: “Nid oes llawer o amser ar ôl i chi sicrhau eich bod yn gallu cymryd rhan yn yr etholiadau. Maent yn gyfle i leisio eich barn a phenderfynu pwy a fydd yn eich cynrychioli ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar fywyd bob dydd yma yn Wrecsam. Os nad ydych wedi cofrestru erbyn 19 Ebrill, ni fyddwch yn cael pleidleisio.”

Dywedodd Rhydian Thomas, Pennaeth y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru: “Ni chewch gyfle i ddweud eich dweud yn yr etholiadau pwysig hyn os nad ydych wedi cofrestru i bleidleisio. Mae’n gyflym ac yn hawdd – mae’n cymryd pum munud ar-lein ar www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio.

“Mae’n arbennig o bwysig bod pawb sy’n gallu pleidleisio yn cofrestru’n gywir. Mae mwy o bobl bellach yn gallu pleidleisio yn etholiadau’r Senedd yng Nghymru, gan gynnwys pobl ifanc 16-17 oed a dinasyddion tramor cymwys. Mae’n rhaid i chi fod dros 18 oed i bleidleisio yn etholiad Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd.

“Os cawsoch eich cofrestru i bleidleisio yn yr etholiad diwethaf ac os nad yw’ch manylion wedi newid, nid oes angen i wneud unrhyw beth.

Mae gan bleidleiswyr amryw o opsiynau i fwrw eu pleidlais – yn bersonol, trwy’r post neu trwy benodi rhywun y maent yn ymddiried ynddo i bleidleisio yn eu lle, gelwir hyn yn bleidlais trwy ddirprwy. I’r rheiny sy’n dewis pleidleisio yn bersonol, bydd gorsafoedd pleidleisio yn lleoedd diogel i bleidleisio ar 6 Mai.

Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais trwy’r post yw 5pm ar 20 Ebrill, ac ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy y dyddiad cau yw 5pm ar 27 Ebrill.

Am fwy o wybodaeth am etholiadau yn eu hardal, sut i gofrestru i bleidleisio, neu sut i wneud cais i bleidleisio trwy’r post neu trwy ddirprwy, dylai pleidleiswyr fynd i wefan https://www.electoralcommission.org.uk/cy. Bydd y dudalen hon yn dal i gael ei diweddaru cyn yr etholiadau.

???? Mynnwch y ffeithiau…darllenwch yr wybodaeth ddiweddaraf am raglen frechu Covid-19 GIG Cymru ar gyfer Wrecsam a Gogledd Cymru ????

Rhannu
Erthygl flaenorol Cynllunio ar gyfer y dyfodol Cynllunio ar gyfer y dyfodol
Erthygl nesaf LFD Testing Dychwelyd i’r ysgol i ddisgyblion uwchradd: Mygydau wyneb a Phrofion Dyfais Llif Unffordd

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Crematorium
Gwaith gwella wedi’i gynllunio yn Amlosgfa Pentrebychan
Y cyngor
Medi 16, 2026
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella'r adeilad.
Dyfarnwyd grant gan Gyngor Celfyddydau Cymru i Tŷ Pawb i ddatblygu cynlluniau ar gyfer gwella’r adeilad.
Pobl a lle
Medi 16, 2026
The Longest Yarn 2
Mae gwau lleol yn helpu i greu arddangosfa enfawr o’r Ail Ryfel Byd – peidiwch â cholli’ch cyfle i’w gweld!
Arall Digwyddiadau
Medi 15, 2026
Dysgu yn Wrecsam
Defnyddiwch yr offeryn defnyddiol hwn i ddarllen a gwrando ar newyddion a gwybodaeth y cyngor mewn unrhyw iaith
Busnes ac addysg
Medi 15, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Arwyddion atal baw cŵn dylunwyr ifanc yn dechrau ymddangos ledled Wrecsam

Medi 15, 2026
Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy
Y cyngor

Cwmni gwaith coed o Wrecsam yn buddsoddi mewn gweithgynhyrchu uwch a thwf cynaliadwy

Medi 15, 2026
Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi
Y cyngor

Gwneuthurwr deunydd pecynnu o Wrecsam yn sicrhau grant Parth Buddsoddi i sbarduno twf a chreu swyddi

Medi 15, 2026
Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam
Pobl a lleY cyngor

Digwyddiad Rhagflas Amgueddfa Bêl-droed Cymru ac Amgueddfa Wrecsam

Medi 14, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English