Roedd Wrecsam yn disgleirio o hapusrwydd Nadoligaidd yr wythnos ddiwethaf pan ddychwelodd digwyddiad poblogaidd i’r dref ond gyda thalent lleol gwefreiddiol newydd sbon yn ychwanegu at yr hwyl.
Ddydd Iau dychwelodd y Farchnad Fictoraidd hynod boblogaidd Wrecsam sy’n cae ei chynnal ar hyd strydoedd canol y dref ac yn darfod yn Eglwys San Silyn.
Eleni cafwyd ymweliad gan y Dirprwy Faer, y Cynghorydd Brian Cameron i weld beth oedd ar gael ac i ymgolli yn yr awyrgylch bendigedig. Pan oedd o yno, ynghyd â gweddill y gynulleidfa, cafodd wledd o gerddoriaeth gan dalent ifanc o Wrecsam.
Pethau Mawr ar y Gorwel
Yn ddiweddar ffurfiodd y ganolfan plant a phobl ifanc leol, Dynamic eu côr iaith arwyddion eu hunain – Dynamic Signing Sensations, a syfrdanwyd cynulleidfaoedd o bob oed â’u perfformiad agoriadol.
Roedd y sioe yn cynnwys cymysgedd twymgalon o garolau traddodiadol a chaneuon Nadolig o frig y siartiau dros y blynyddoedd. Arwyddodd y plant a’r bobl ifanc y geiriau i hen ffefrynnau fel 12 Dydd Nadolig a Merry Christmas Everyone gan y bytholwyrdd Noddy Holder a Slade. Fe wnaeth y côr talentog sicrhau bod rhywbeth i bawb a gadawyd y dyrfa’n gweiddi am fwy.
Lledaenu Lawenydd y Tymor
Rhoddodd y côr wên ar wynebau pawb a oedd yn ddigon ffodus i’w gweld nhw, ac roedd bwcedi casglu arian yn mynd o gwmpas y dorf gyda’r holl elw’n mynd i Eglwys San Silyn, a oedd yn gefndir ar trawiadol i’r perfformiad gwefreiddiol.
Sêl Bendith Dinesig
Roedd y Dirprwy Faer wedi syfrdanu a’i blesio gan y perfformiad ac fe wnaeth mwynhad a phleser amlwg y plant argraff fawr arno.
Meddai’r Cynghorydd Cameron: “Mi wnes i fwynhau bob eiliad o berfformiad cyntaf erioed y Dynamic Singing Sensations.
“Roedd yn gwbl amlwg i bawb gymaint o waith caled aeth i mewn i’r sioe a bod hynny wedi talu ar ei ganfed. Roedd pob un ohonyn nhw yn anhygoel ac fe ddylai Wrecsam fod yn falch iawn ohonyn nhw, felly llongyfarchiadau i bawb oedd yn rhan o hyn .”
Diwrnod caled o ganu
Mae’r côr, sy’n cael ei arwain gan Emma Jones ac Amy Pritchard, wedi gweithio’n ddiflino i fireinio eu perfformiad.
Meddai Amy: “Gweithiodd y plant yn hynod o galed ar gyfer hyn ac roedden nhw’n wirioneddol ddisgleirio, a dwi isio dweud pa mor falch ydw i ohonyn nhw, a da iawn bob un wan jac ohonynt ”.
Roedd gan Emma hefyd glod uchel i’r sêr newydd lleol: “Ar ôl wythnosau o baratoi rhoddodd y côr bopeth i’w perfformiad ac fe ddylen nhw eu hunain, eu teuluoedd a’u ffrindiau deimlo’n falch dros ben. ‘Da ni mor hapus drosoch chi yma yn Dynamic, da iawn chi”.
Pethau Mwy i Ddod
Hefyd yn bresennol roedd Laura Williams, rheolwr elusen Dynamic, a ddywedodd: “Rydym ni mor falch o Amy, Emma a’r holl bobl ifanc a gymerodd ran yn y perfformiad yn Eglwys San Silyn a’r Farchnad Nadolig Fictoraidd. Cawsom sioe anhygoel ganddyn nhw ac roedd hi mor braf eu gweld nhw i gyd yn mwynhau eu hunain
“Dechreuodd siwrnai’r ‘Dynamic Signing Sensations’ yn wreiddiol fel côr yn Ysgol Sant Christopher ac roeddent yn adnabyddus fel ‘Sign of the Times’. Fodd bynnag pan adawodd rhai o’r aelodau penderfynodd yr ysgol symud y côr i ffwrdd o leoliad yr ysgol a chynnig cyfle i aelodau’r gymuned ehangach ymuno. Roedd Dynamic felly wrth eu bodd gallu cynnig cyfle i Amy, Emma a gweddill aelodau’r côr ailgynnull ac ail-frandio.
“Mae’n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r holl rieni/gofalwyr sy’n cludo’r bobl ifanc i’w sesiynau ymarfer rheolaidd a’u perfformiadau – heboch chi, fyddai yna ddim côr. Rydym i gyd wedi cyffroi ar gyfer y dyfodol, gyda llawer o gynlluniau yn eu lle ar gyfer 2022 a fydd yn gweld y côr yn tyfu ac yn cynnig llawer o gyfleoedd gwych i’r aelodau.”
Gyda’r fath ganmoliaeth uchel ac adolygiadau gwych, does dim dwywaith y bydd Dynamic Signing Sensations yn mynd o nerth i nerth.