Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis. Trwy ei defnyddio, rydych yn cytuno i’w defnydd. Am fwy o wybodaeth, darllenwch ein
Derbyn
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Darllen Prif swyddog newydd i arwain gwasanaethau addysg
Rhannu
Notification Show More
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Search
  • Busnes ac addysg
  • Y cyngor
  • Pobl a lle
  • Digwyddiadau
  • Fideo
  • Arall
  • English
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Newyddion Cyngor Wrecsam > Blog > Busnes ac addysg > Prif swyddog newydd i arwain gwasanaethau addysg
Busnes ac addysgY cyngor

Prif swyddog newydd i arwain gwasanaethau addysg

Diweddarwyd diwethaf: Mai 11, 2020 2:49 pm
Rhannu
Darllen 2 funud
Karen Evans
RHANNU

Hoffem gyhoeddi penodiad prif swyddog newydd i arwain ein gwasanaethau Addysg ac Ymyrraeth Gynnar.

Ian Roberts sy’n gwneud y swydd ar hyn o bryd, a chyhoeddodd fis Rhagfyr diwethaf y bydd yn ymddeol yr haf yma.

Ers hynny, rydym wedi bod yn brysur yn chwilio am olynydd Ian, ac mae’n braf cyhoeddi y bydd Karen Evans yn ymuno â ni ddechrau Awst.

Mae Karen wedi gweithio i Gyngor Sir Ddinbych ers 2010, ac yn Bennaeth Addysg a Gwasanaethau Plant yno ar hyn o bryd.

Mae hi wedi ymrwymo i ddosbarthu gwasanaethau o safon – yn gweithio gydag ysgolion a phartneriaid eraill er mwyn sicrhau fod plant a phobl ifanc yn cael y profiadau a chyfleoedd addysgiadol gorau phosib, wrth sicrhau’r safonau cyrhaeddiad uchaf.

Dychwelyd i Wrecsam…

Mae Karen wedi dysgu yn Lloegr ac yng Nghymru. Mae hi’n gyn-bennaeth ysgol uwchradd ac wedi treulio nifer o flynyddoedd fel Pennaeth yn Ysgol Y Grango yn Rhosllanerchrugog.

Dywed Karen ei bod hi’n edrych ymlaen yn fawr iawn at gael dychwelyd i Wrecsam i fod yn rhan o’n gwasanaethau Addysg ac Ymyrraeth Gynnar.

Dywedodd y Cynghorydd Mark Pritchard, Arweinydd y Cyngor: “Rwy’n hynod o falch ein bod wedi gallu gwneud penodiad o ansawdd mor uchel.

Mae Karen yn weithiwr proffesiynol rhagorol, ac yn dod a chyfoeth o ansawdd a phrofiad i’r rôl…gan barhau ar y gwaith ardderchog a wnaed gan Ian dros y tair blynedd diwethaf.

“Mae hon yn swydd mor bwysig, ac mae penodi Karen yn golygu byddwn yn gallu parhau i ddatblygu’r gefnogaeth rydym yn ei darparu i blant a phobl ifanc ledled Wrecsam.”

Ychwanegodd y Cynghorydd Phil Wynn, Aelod Arweiniol ar gyfer Addysg: “Mae Karen yn uchel ei pharch o fewn y byd addysg a llywodraeth leol, ac mae’r ffaith ei bod hi am ymuno â ni yn newyddion gwych.

“Bydd ei phenodiad yn ein galluogi i wneud cynnydd yn erbyn yr heriau sy’n ein hwynebu wrth ymateb i arolwg diweddar Estyn, a gallwn symud ymlaen gyda hyder.”

Rhannu
Erthygl flaenorol dyma yw maethu Pythefnos Gofal Maeth: Cyfraniad hanfodol degau o filoedd o deuluoedd maeth wedi’i amlygu yn ystod y coronafeirws
Erthygl nesaf Covid 19 Covid-19 (Coronafeirws Newydd) – nodyn briffio’r cyhoedd 11.5.20

Cysylltu

812DilynwyrHoffi
1.1KDilynwyrDilyn
765DilynwyrDilyn
39DilynwyrDilyn
- Cofrestru -
Ad image

Y newyddion diweddaraf

Recycling
Amseroedd gweithredu’r canolfannau ailgylchu
Y cyngor
Medi 25, 2026
Ysgol I D Hooson
Gwaith yn Ysgol I D Hooson yn dechrau’n swyddogol
Busnes ac addysg
Medi 25, 2026
The People's Emergency Briefing – gallai'r ffilm hon fod yn un o'r pethau pwysicaf y byddwch chi'n ei wylio erioed
The People’s Emergency Briefing – gallai’r ffilm hon fod yn un o’r pethau pwysicaf y byddwch chi’n ei wylio erioed
Datgarboneiddio Wrecsam Pobl a lle
Medi 24, 2026
Wrexham Council News, Wrexham local councillors. Wrexham council chambers
Gwyliwch ein cyfarfodydd wyneb yn wyneb neu ar-lein
Y cyngor
Medi 24, 2026

Efallai yr hoffech weld y rhain hefyd

Illegal Tobacco
Y cyngor

Adran Safonau Masnach Wrecsam dan sylw

Medi 24, 2026
All Saints School Library Opening
Busnes ac addysgPobl a lle

Ysgol Gynradd yr Holl Saint yn agor drysau ei llyfrgell newydd

Medi 23, 2026
sign for site
Y cyngor

Cyngor Wrecsam i ddechrau dymchwel i wneud lle i ailddatblygu tai cymdeithasol

Medi 22, 2026
Gwersyllt
Y cyngor

Dan sylw: Rôl cynghorydd

Medi 21, 2026
//

Mae Newyddion y Cyngor yn darparu’r holl newyddion diweddaraf gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam.

Prif storiau

Tanysgrifiwch i’n bwletin newyddion a chael y newyddion a’r wybodaeth ddiweddaraf gan Gyngor Wrecsam.

Tanysgrifwch

Dolenni cyflym

  • Addasu diddordebau
  • Rhestr ddarllen
  • Fy Niweddariadau
  • Cysylltwch â’r cyngor
  • Polisi preifatrwydd
Newyddion Cyngor WrecsamNewyddion Cyngor Wrecsam
Dilynwch NI
© 2023 Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam
Wrexham Council News
Welcome back!

Sign in to your account

Username or Email Address
Password

Lost your password?

  • Cymraeg
  • English